Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ALLTUD Mi ddringais Gadair Arthur yn y gwŷll Hyd nes im gyrraedd gopa'r mynydd fry, Ag awel falmaidd dyner draw o'r môr Yn hir gusanu 'ngwallt a'm gwefus i. Mis drois i'r de a syllu'n hir a thrist, A gobaith gwan, sychedig dan fy mron, Ond 'welais namyn Bentland mud, di-nwyd Yn llonydd wylio dawnsio dwl y don. Ond O, mi welais leuad arian, wen A doddodd yn ei gwawl 'ngofidion lu Mi ddawnsiais innau gyda thonnau'r môr Wrth weled lusern mawr y Mynydd Du. Edinburgh. HYWEL DAVIES. CWRS Y BYD Awstria. Dywedwyd llawer o ffwlbri am helynt Awstria. Y ffaith ganolog ydyw bod mwynau haearn i'w cael yn y wlad honno. Y mae eisiau'r mwynau hyn ar Hitler ar gyfer y rhyfel mawr sy'n dyfod, ac mae yn fwy cyfleus eu cael yno nag yn Sbaen. Felly, fe wnaeth fargen â Mussolini gan roi lle blaenllaw iddo ef ym Môr y Canoldir a chipio cyfoeth Awstria iddo ef ei hun. Sbaen. Daeth buddugoliaeth Hitler ar unwaith yn Awstria, am fod y wlad fach honno yn rhy wan i'w wrthsefyll. Nid mor hawdd y daw buddugoliaeth i Mussolini yn Sbaen, yn enwedig am fod yr Abysiniaid yn parhau i ymladd am ryddid ac annibyn- iaeth. Un o'r ffeithiau rhyfeddaf a welwyd yn Sbaen yn ddiweddar yw bod nifer y ffoedigion o rengau Franco ar gynnydd, er bod eu byddinoedd yn ymwthio tua'r mor ac yn ennill tir o