Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Prydain a'r Eidal. "Cyfranogion â lladron,’’­dyna'r disgrifiad gorau Y gellir ei gael o lywodraethwyr Prydain sy'n gyfrifol am arwydd0 cyfamod â'r pen-lleidr Mussolini. Y mae'r cyfamod i ddod i rym "ar ol setlo helynt Sbaen," h.y., ar ol i Sbaen fynd yn aberth i Moloch yr un fath â Manchuria, Abysinia ac Awstria. Y mae Prydain hefyd, i weithio dros gyd- nabyddiaeth i goncwest Abysinia. "Dyna nhw yn ein bomio ni eto yn awr, ar ôl gwneud cyfamod â Phrydain," meddai Sbaenwr yn Barcelona, ar ôl rhedeg i gyrraedd un o'r noddfeydd rhag tân-belenni. Teflir parch i egwyddor cyfraith wareiddiedig dros y bwrdd yn hollol, a dychwelyd i gyfraith y dwrn dur. Mewn un gwlad ar ôl y llall fe brofir nad y llywodraeth gyfreithlon sydd i reoli, ond y fyddin, byddin dramor os na bydd y f yddin frodorol yn ddigon grymus i gadw'r bobl i lawr. Felly, sut y disgwylir i ni barchu ein llywodraeth ein hunain ? A sut y gallwn ymfalchio yn ein byddin ? Onid ei hofni y dylem ? Mexico. Gwnaethpwyd campwaith ym Mexico trwy genedlaetholi'r diwydiant olew. Olew yw'r man gwan yng nghynllun econom- aidd y gwledydd Ffasgaidd, ac y mae eisiau olew arnynt ar gyfer "y rhyfel nesaf" (sydd wedi dechrau eisoes). Dyna paham yr anfonwyd protest egnïol i Mexico-gan lywodraeth Prydain. Gorseinon. Y BROGA Un hoenus 'nôl hir huno-câr y ffrwd Câr y ffridd i drigo. Nofiwr braf yn nwfr bro A llam hwn He y mynno. CYRIL P. CULE. THOMAS DAFIS.