Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR IAITH YN Y LLYSOEDD YN ei lyfryn ar Uniad Lloegr a Chymru* cyhoedda'r Barnwr Syr Thomas Artemus Jones yr anerchiad a draddodwyd ganddo'r llynedd gerbron Anrhydeddus Gymdeithas y Deml Ganol yn Llundain. Cawsom ni yng Nghymru rai misoedd ynghynt gnewyllyn yr anerchiad hwn mewn ysgrif gan y Barnwr yn Y Llenor o dan y pennawd Deddf Harri VIII yn Ngolau'r Gwreiddiol. Cymwynas â ni oedd i gyfreithiwr o safle'r Barnwr glirio'r amheuaeth, a fodolai ers rhai blynyddoedd, a ddiddymwyd ai peidio yr Adran honno o Ddeddf 1536 a waharddai ddefnyddio'r Gymraeg mewn llysoedd cyfraith. Bellach ni all fod dwy farn nad yw'r Adran honno mewn llawn rym ac effaith ac mai godd- efiad yn unig yw hynny o ddefnydd swyddogol a wneir o'r iaith yn ein llysoedd. Ychwanegodd Syr Artemus Jones at ein dyled iddo drwy helaethu ar ei ymdriniaeth yn Y Llenor, a manteisio ar yr an- rhydedd a ddaeth i'w ran i annerch yn un o ganolfannau cyf- reithiol pwysicaf ein gwlad i oleuo'n cymdogion y Saeson ar safle'r Gymraeg yn gyffredinol yn ein llysoedd. Diau mai gormes wleidyddol a pholisi bwriadol a gyfrifai ar y cychwyn am ddeddfu alltudio'r iaith o'r llysoedd, ond anodd credu erbyn heddiw mai dyna'r rheswm am barhad y ddeddf a'i gweithrediad. Gwell gennyf fi, 0 leiaf, yw priodoli'r annhegwch a'r anghyfiawnder i ddiffyg gwybodaeth neu ddiffyg dealltwr- iaeth y Saeson o'n problemau a'n hanawsterau arbennig ni fel cenedl ddwyieithog. Nid profiad dieithr i Gymro yw cyfarfod Saeson na wyddant hyd yn oed am fodolaeth ein hiaith, a'r Saeson hynny'n ami yn wyr o ddysg a diwylliant. Nid annhebyg ydyw y ceid llu o'n Seneddwyr yn San Steffan heddiw yn perthyn i'r dosbarth yna. Ac am y Saeson hynny sy'n lled-wybod am fodolaeth yr iaith, prin y gwawriodd y syniad arnynt erioed fod dros wyth can mil o'u cydwladwyr yn ei defnyddio fel eu hiaith feunyddiol ac na all pedwar ugain mil o'r rheini eu mynegi eu hunain o gwbl mewn The Union of England and Wales, by His Honour Sir Thomas Artemus Jones, K.C. London, Pitman, 1937. Tdd. 31, 1s.