Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn ei famiaith y gwnâi bob datganiad o bwysigrwydd anghy- ffredin. Trafodir agweddau eraill i bwnc yr iaith yn y llysoedd gan Syr Artemus Jones. Cyfeiria at safle rheithwyr. Dengys na ellir yn ddiogel ganiatáu o dan y drefn bresennol, er pan bender- fynwyd achos Ras Behari Lal ac Eraill v. Yr Ymherodr Frenin yn 1933, i reithiwr nad yw yn deall Saesneg yn dda weithredu mewn unrhyw achos yn ein llysoedd. Drwy hynny amddifedir llu o'n cydwladwyr o un o'u hawliau a'u rhagorfreintiau fel dineswyr, a'u hunig anghymhwyster ydyw eu hanwybodaeth o iaith estron iddynt. Y mae'n rheol bellach yn un 0 lysoedd Gogledd Cymru i ofyn i bob rheithiwr beth yw ei wybodaeth o'r Saesneg. Os ceir ei fod yn "anwybodus", erchir arno sefyll i lawr. Gwir y dywedir bod y driniaeth hon yn sarhad ac yn anfri arno. Agwedd arall ydyw'r ffaith na all cyhuddedig neu hawlydd neu ddiffynnydd mewn achos, fel y mae pethau'n awr, os nad yw'n deall Saesneg, ddilyn y rhan helaethaf o'r gweithrediadau, ac yn arbennig areithiau'r cyfreithwyr a chrynhoad y barnwr o'r achos. Nid yw hyn, mae'n wir, yn gamwri mawr, oddieithr yn yr achosion hynny lle ni chynrychiolir dyn gan gyfreithiwr, ac, oherwydd hynny, lle mae'n bwysig iddo ddeall yn union y modd y cyflwynir ei achos i'r rheithwyr. Ni chaf gyfle'n awr i drafod yr awgrymiadau ar y dull mwyaf effeithiol o ddiwygio'r drefn bresennol. Digon yw dweud bod Syr Artemus Jones yn ymwrthod â dadl "y math eithafol o Genedlaetholwyr", y dylai gweithrediadau'r llysoedd yng Nghymru fod yn gyf angwbl yn Gymraeg. Amlwg ydyw y byddai hynny yr un mor annheg ag ydyw pethau'n awr. Ei feddy- giniaeth ef ydyw paratoi'r ffordd at gyfundrefn gyfreithiol ar batrwm Canada a De Affrig, lle ceir dwy iaith ar yr un tir yn hollol â'i gilydd yn y llysoedd cyfraith. Fel y cam cyntaf i gyfeiriad hynny, awgrymir y dylid cyfieithu pob tystiolaeth nid yn unig o'r Gymraeg i'r Saesneg ond hefyd o'r Saesneg i'r Gymraeg, fel y gallo Cymro sy'n fwy hyddysg yn y Gymraeg nag yn y Saesneg wasanaethu fel rheith- iwr. Bydd gobaith inni o'r diwedd weled sylweddoli'r diwyg-