Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gwefusau. Er hynny teimlem nad oedd Macbeth (Maldwyn Lee) cystal Cymro ag oedd o actor. Yr oedd ganddo ryw lediaith bach a barai inni deimlo'n anghyfforddus weithiau. Er hynny, rhoddodd ddehongliad cofiadwy. Gwnaeth Miss Meriel Williams hithau, ei gwaith yn rhagorol heb nam ar ei hacíio nac ar ei Chymraeg. Dylid hefyd enwi Macduff (Glyñ Phillips) a Banquo (Howard Davies) fel rhai sydd yn teilyngu cymeradwyaeth ar- bennig. Edrychaf ymlaen at gymharu gwaith cwmni Llanelli â gwaith Cwmni Caerdydd fis Awst nesaf. THEOMEMPHUS. DYDDIADUR CYMRO MEWN nodiad a sgrifennais i HEDDIW dros flwyddyn yn. ôl tynnais sylw fy narllenwyr at ymgais y llywodraeth i guddio cynlluniau militaraidd tan gòchl peth diniwed fel Ymarfer- Ccrfforol. Erbyn hyn nid oes neb ond y dall a wâd nad amcan militaraidd oedd y tu cefn i'r cwbl. Y trueni ydyw i gymaint gael eu twyllo. Heddiw fe dwyllir pobl i roddi cymorth i gyn- lluniau rhyfelgar drwy dynnu darluniau arswydus o ganlyniadau rhyfel arall, a gofyn iddynt fod yn barod i'w hamddiffyn eu hunain. Meddylegol yn hytrach na gwirioneddol yw gwerth y c^Tilluniau a elwir wrth yr enw hwylus-ddeniadol A.R.P. Fe'rr gwahoddir ni i gadw bwcedaid o dywod mân i ddiffodd thermite bombs chwarter tunell, a photelaid o Sal Volatile i wrthweithio diffyg anadl yn ein cudd-leoedd (o bydd gennym rai). Am ddeu- naw, medd un o bapurau galluog y Wasg Seisnig, gellir prynu digon o bast a phapur grease proof ac ychydig ystyllod i'ch ham- ddifiyn rhag effeithiau nwyau a fedr fwyta drwy y dillad trymaf, ac yn erbyn bomiau a all wneud i'r dur cadarnaf losgi fel papur sidan. Dywedir y bydd gas mask yn barod i bawb o'r trigolion. Cnd beth am y plant bychain na fedrant wisgo mwgwd o unrhyw fath ? Na, yn bendifaddau nid oes iachawdwriaeth inni yn- A.R.P. Ac ni chred y llywodraeth hynny yn ei chalon, chwaith..