Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A YDYCH AM GYHOEDDI LLYFR? CYFLEUSTRA DI-AIL I AWDURON CYMRU Bydd llawer awdur yn awyddus i gyhoeddi llyfr o'i waith, ond ceir ef yn petruso oherwydd y drafferth o gyflenwi llyfrwerthwyr, gyrru biliau allan, ac yn y blaen. Nid oes raid i bethau fel hyn boeni awduron yn hwy. Yr ydym ni wedi gwneuthur trefniadau i gyhoeddi llyfrau ar ran awduron yn gystal â'u hargraffu — a'r cwbl ar delerau ffafriol. Cawsom gryn brofiad o gyhoeddi ar ran awduron, ac yr ym mewn cysylltiad agos â'r llyfrvderthwyr. Manteisiwn ar y cyfle hwn i gydnabod yn ddiolchgar y llu a roddodd air caredig i'n Hargraffiad Da. Caiff pob llyfr a ymddiriedir i ni ofal arbennig i'w droi allan yn destlus. Ymhlith y llyfrau a argraffwyd yma eleni y mae:- Christmas Evans (J. T. Jones, M.A., Rhosllanerch- rugog). Sion Gymro (Y Parch. Ben Davies, Llandeilo). Daniel Rowland, Llangeitho (Y Parch. D. J. Odwyn Jones, M.A., Llanelli). Cerddi Pum Mlynedd (1933-1937) (J. M. Edwards, y Barri.). Songs of Assisi (Dr. Elfed Lewis). Gyrrwch Atom i Ganol Cymru Gymreig Gwasg Gomer, Llandysul