Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU Sylfeini, gan Iorwerth C. Peate. Hughes a'i Fab, 1938. Tdd. 176, 3s.6d. Haedda Mr. Peate ein diolch am gyfrol Werthfawr. Cas- gliad ydyw o un ar bymtheg o ysgrifau ar wahanol destunau, a nifer ohonynt wedi ymddangos eisoes mewn cylchgronau, a phedair wedi eu darlledu. Credwn mai buddiol yw diogelu ysgrifau yn y modd yma, petai'n unig er mwyn eu cadw rhag tynged anochel yr ysgrif yn y papur dyddiol, eu colli. Golyga hyn bid sicr eu bod yn werth eu cadw. Fel y gellid disgwyl mewn cyfrol o'r fath, y mae'n dra diddorol, a hynny i fesur ar gyfrif amrywiaeth y testunau. Beirniadaeth Lenyddol, Mynyddog, Samuel Roberts, Pobl Gyff- redin, Daearyddiaeth a'r Haneswyr-dyna rai ohonynt. Ac os nad oes yma rywbeth i bawb, y mae yma rywbeth i lawer, a llawer hefyd i ambell un. Nid cyfwerth na chyfartal y cwbl- yn wir nid ydym yn sicr nad gwell a fyddai gadael i un neu ddwy o'r ysgrifau farw'n dawel a naturiol ond dyna, fel llawer peth arall, cânt gyfle i fyw yng nghysgod bethau gwell na hwy eu hunain. Tra diddorol yw nifer o fywgraffiadau byrion, ar Dder- wenog, Mynyddog, S.R., Eifionydd, a Dafydd Dafis y Siop. Dengys yr awdur ddawn arbennig i ddisgrifio cymeriad yn fyw a tharawiadol. Yr ydym yn ddiolchgar iddo am oleuni newydd ar Fynyddog. Ysgrif wych hefyd yw honno "Tua Granada." Ond o amgylch Cymru a Chymry y try diddordeb pennaf Mr. Peate, yma fel ymhob man arall, a phe ceisid llinyn a gysyll- ta'r ysgrifau i gyd wrth ei gilydd fe'i ceid yn ei ddiddordeb byw yn y diwylliant a'r traddodiad Cymreig. Y mae'r dyfyniadau ar glawr y llyfr yn gystal allwedd â dim i athroniaeth yr awdur. "Cenedl o bobl gyffredin yw'r Cymry. Dyna yw ein prif fawredd. Ein diwylliant yw craidd ein bywyd, a rhaid ei ddiogelu. Fe gynnwys ein hiaith, ein crefydd ein holl ffordd o fyw". Gwêl yn eglur mai diwylliant gwledig yw'n heiddo ni fel cenedl, ac o ganlyniad bod cadernid y traddodiaid cenedlaethol "yn y wlad". Nid yw yn fodlon yn unig ar adrodd ei weledigaeth ychwaith, eithr myn iddi fod yn sail apêl rymus ar ran yr Am- gueddfa Genedlaethol. Apelia'n daer ar i'r Amgueddfa gael ei Ue a'i swydd briodol ynglŷn â diogelu'r diwylliant a'r traddodiad