Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cymreig. Diddorol yw'r hyn sy ganddo i'w ddywedyd am yr Almaen a Norwy ynglyn â hyn. Yn sicr fe gododd Mr. Peate gwestiwn anarferol o bwysig i bob un sydd â Chymru yn agos at ei galon. Ni wnaiff Mr. Peate ein camddeall wrth i ni ddwedyd bod angen diogelu'r traddodiad hefyd tuallan i'r ffurfiau'r Amgueddfa. Beth am y genhedlaeth y sy'n awr yn codi yn y trefi, megis Caerdydd ac Abertawe ac hyd yn oed Llanelli a Bangor a Chaernarfon, ymhell o gyrraedd gwreiddiau'r diwylliant ? Yr hyn a'm trawodd ers tro bellach yw'r ffaith y gellir codi plant i siarad Cymraeg, a hwnnw'n ddi- lediaith, heb Iwyddo i'r un graddau i'w codi'n Gymry. Nid dyma'r lle na'r pryd i ymdrin â chwestiwn mor fawr, nad yw yn y pendraw yn ddim llai na chwestiwn brwydro traddodiad a diwylliant cenedl yn erbyn gormes y dref estronol, y dref sy nid yn gymaint yn Seisnig ei thraddodiad, ond mewn gwirionedd heb draddodiad o un fath yn y byd. Ymha Ie y gorwedd llwybr ein hiachawdwriaeth, a phwy a'i dengys inni ? G. Irene Myrddin Davies Everyday Life in Wales. Book One. From Rock Shelter to Roman Villa. Td. 225. Gyda dar- luniau. Pris, 2/6. Gwasg Aberystwyth, 1937. Cyfrol at wasanaeth plant ysgol ydyw hon a pharatowyd hi yn Saesneg. Gallaf ddywedyd yn ddibetrus na ddarllenais erioed ddim gwell na hon ar bwnc o'r fath. Y mae'r defnyddiau wedi eu trefnu'n ofalus a'r cwbl wedi ei gyfleu mewn dull deniadol a fydd yn hollol ddealladwy i blant. Yr oedd angen dirfawr am waith o'r fath a bellach bydd y gyfrol yn gwbl anhepgor yn yr ysgolion hynny lle y dysgir hanes trwy gyfrwng y Saesneg. Mewn llyfrau poblogaidd neu lyfrau wedi eu symleiddio ar gyfer plant, y duedd yn aml yw gwyro rhyw gymaint ar y ffeithiau ond y mae ffeithiau Mrs. Myrddin Davies yn fanwl gywir yn ôl yr ymchwil ddiweddaraf a'r time-chart yn niwedd y gyfrol yn batrwn i ami archaeolegydd wrth ei swydd. Llongyfarchion calonnog i Mrs. Davies a'r cyhoeddwyr am waith y gellir annog pawb i'w ddarllen. Bydd y darluniau du-a-gwyn o help mawr hefyd mynnodd Mrs. Davies y rhan fwyaf ohonynt o'r amgueddfeydd mawrion, ac y mae rhai o'r darluniau lliw yn wych. Un gwyn sydd gennyf y mae ambell un o'r darluniau lliw yn boen i'r llygad. Methodd ýr argraffwyr â phrintio'r gwahanol liwiau yn gywir ar bennau ei gilydd gyda'r canlyniad bod y cwbl yn blur annioddefol. Ac nid yw'r cloriau'n deilwng o waith mor wych. Ond ar waethaf y meflau hyn, gobeithiaf y bydd gwerthu mawr ar y gyfrol ragorol hon. IORWERTH C. PEATE.