Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

III Gyrr glaw ar y garreg lom. Yn ei sgil fel nas gwelom Daw'r trais a'i gwad i'w adeg O'r tŵr tost ar y tir teg Lle trig dychweledigion Hil a thras i hawlio'u thrôn. Cwyd o'r twr tra cydir tid, Arwyddair "Hedd a Rhyddid" Gan y gwyr a'n drygai'n gaeth Ym mrwydr eu hymerodraeth. I'r hygred aent â'u rhagrith, Adwaen rhain o dan y rhith. Rhaid mai yw unrhyw ydynt- Tras y gwYr a'n treisiai gynt. IV Gyrr glaw ar y garreg Iwyd- Cyn bod ciwdod y'i codwyd. Trosti'r gwynt i'w hynt a hed, Y ddaear dani a ddywed "Yr un yw baich gwerin byd, Un hawlfraint ac un delfryd. Cânt o'r tir âr y bara, Trônt gyfwerth fy nerth, fy na A'u trafael yn y trefi A than hwyliau llongau lli. Pob peth a roddo pob pau Pwy ond fy mhlant a'u piau ? Er gormes o'r tẃr gwrmwawr A roddai gam i'r fam fawr. V Yr un yw baich gwerin byd, Diau 'run dynged hefyd, Pwy a frud pa rai ydym ? Pwy a ry iaith, pa rai ym ? Ai brith bererinion bro Am un cetyn yn cwato Dan bebýll cant o ddulliau Ar gytir y gwir a'r gáu, Yn ceisio gwlad eu pader A'u hantur syn, hwnt i'r sêr ?