Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ai megis mwg—oes i mi Hafal i'n hoed yn oedi Uwch y tân yn dorch denau O'n pebyll i'r gwyll yn gwau ? Pŵl yw y mwg-pa Ie y mae ? Ond llais a glywais yn glir O hir wrando ar weundir, Eilwers â chân rhyw wersyll A gwawr eu tân yn y gwyll. Peidiai rhyfel a'i helynt, Peidiai'r gwae o'r pedwar gwynt Pe rhannem hap yr unawr, Awyr las a daear lawr. Oer angen ni ddôi ryngom Na rhwyg yr hen ragor rhom Pe baem yn deulu, pob un, Pawb yn ymgeledd pobun Awen hen a ddeuai 'nol, Hen deimladau ymledol O'r hoff foreau traffell Ac aelwyd gynt. Golud gwell. VI Yr un yw baich gwerin byd A'i thrafael aruthr hefyd Yw esgor ar y gorau, A'r hedd a fyddo'n parhau. Rhwng pob ciwdod pan godan' 'R un ty, 'r un to, i'r un tân. Deir waith cymrodyr di ri Yw ei lawr a'i bileri. Ac nis edwyn hil milwyr Na'r darian dân na'r dwrn dur, Na'r heidiau ar ehedeg, A'u rhu ar yr awyr, a'u rheg. Os tyrr argae yr haearn Gwel y sêr un gwely sarn. Onid hynt y gwynt a'i gwêd ? Yn y glaw cawn ei glywed. Gyrr glaw ar y garreg lom, Trewir yr oerias trwom. Ai teg swcwr y tẃr tau ? Na rwyder dy ddelfrydau. Rhyfel pob un rhyfelwr,