Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y fyddin lân ddi faner Is sicr wyliadwriaeth sêr, Ymhell uwch rhyddid fy mhau A lli'r haul a'r lloer olau Nerth bywyd pob tud, pob tâl, Tawel foes yr oes risial. WALDO WILLIAMS TRINDOD Credaf yng ngrym y drindod agos, gref, Sy'n cario'r dydd dros drindod bell y nef. Yr un a ddaw yn gyfrwys-gudd, I brofi'r da yn dom ddi-fudd. Yr un a'm gwna, â'i gri ddi-daw, Yn bryfyn blysiog yn y baw. Yr un, â'i wychter ffals a'i dwyll, A wad bob dim er cadw pwyll. Pwy'n gwared ni, yn ein caethiwed clyd I drindod dreisiol diafol cnawd a byd? LAWNSLOT.