Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MIS Y CADOEDIAD UN o effeithiau'r Creisis na roddwyd yr un sylw iddo yn y Wasg Gymreig, oedd dileu y rhaglenni Cymreig a Chymraeg a gadael gorsaf Cymru yn segur am dri diwrnod mor bell ag yr oedd darlledu rhaglenni Cymraeg yn y cwestiwn. Y mae hyn yn bwysicach nag yr ymddengys ar yr wyneb, oherwydd dylai btri inni aros i geisio'n holi ein hunain, beth fydd tynged Cymru os digwydd i ryfel arall dorri allan. Un o ganlyniadau cyntaf rhyfel arall fyddai ymgais i ddifodi'r diwylliant Cymreig, fel y difodwyd y rhaglenni Cymreig gan ddictatoriaid y B.B.C. Rhaid cofio mai offeryn yn llaw'r llywodraeth yw'r B.B.C. a chyfrwng hwylus ei phropaganda, a phan ddaw hi'n ddydd taro ni chyfrif Cymru'n ddim yn ei golwg. Y mae'r paradocs yn un rhyfedd, ond nid yn annisgwyl. Tra pleidia'r Llywodraeth hawliau'r lleiafrif Swdetaidd yn Tsecoslofacia, anwybydda ei lleiafrif ei hun-ei hiaith a'i hawliau economaidd. Gall yr hyn a ddigwyddodd i'r radio yng Nghymru ddi- gwydd, hefyd, i'r Wasg yng Nghymru. Y mae un peth yn sicr, os pery rhai papurau a chylchgronau Cymraeg i bregethu'r un syniadau ag a wnaethant yn ystod y creisis, ni bydd eu heinioes yn hir iawn, unwaith y cyhoeddir rhyfel. Hyd yn hyn osgôdd y Wasg Gymreig y sensoriaeth lem a osodwyd ar y Wasg. Seisnig. I anwybodaeth y mae hyn i'w briodoli yn bennaf. Yn wir yr unig lygedyn o olau yn y creisis mor bell ag yr oedd Cymru yn y cwestiwn ydoedd safiad cadarn papurau fel Y Brython a'r Ddraig Goch—ni wnaeth y Cymro ei feddwl i fyny eto a deil i fflyrtan gyda chynlluniau cyfrwys yr A.R.P., ac i boeni enaid gweinidogion pasiffistaidd a fu'n ddigon synhwyr-gall i weld trwyddynt. Ond rhaid cydnabod mai ychydig o'r newyddiaduron Cymreig a amlygodd agwedd hollol Gymreig yn y Creisis, ac ofnwn pe deuai rhyfel arall y gwelid yr un golygfeydd â chynt yng Nghymru. Araf iawn y mae Cristnogaeth yn gwneud ei hôl ar Gymru ac ar wledydd eraill Europ. Twyllir hi gan shi- bolethau mwyaf arwynebol, a gwenwynir ei bywyd hi gan "ar- weinwyr" na wyddant y dim lleiaf am draddodiadau eu cenedl eu hunain, na malio dim am ei thynged. "Y dall a dywysodd y