Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DDRAMA GYMRAEG GYNTAF PWYLL Pendefig Dyfed yw'r ddrama Gymraeg gyntaf. Ceisir dangos yma fod yn arddull y gaínc gyntaf o'r Mabinogi rai o hanfodîon techneg y ddrama. Ystyriwn yn gyntaf agoriad y gainc a'r ymddiddan rhwng Pwyll ac Arawn, brenin Annwfn. Amcan helynt yr hela yng Nglyn Cuch yw dwyn y ddau gymeriad pwysig ynghyd, eu rhoi ar lwyfan gyda'i gilydd, a rhoi inni ddisgrifiad o'r olygfa a'r "mise- en-scène." Yna fe ymddengys Arawn a dechrau ymddiddan â Phwyll. Mae'r deialog sy'n dílyn yn cyflawni dau orchwyl, sef dat- blygu'r stori, gan ddatguddio inni yn raddol yr hyn na wyddom am hanes Arawn ac yn ail, mae'n rhan o ddull y cyfarwydd o oleuo cymeriad Arawn. Holi ac ateb yw defnydd y deialog, holi gan Bwyll, ateb gan Arawn. Amcan y cwbl yw datguddio pwy yw Arawn, ac awgrymu bod yna "ryw ystyr hud" yn ei bersonolíaeth. Hanfod sefyllfa ddramatig dda yw gwrthdaro rhwng cymeriadau. Ar y dechrau, fe geir gwrthdaro pendant iawn rhwng Pwyll ac Arawn, a'r gwrthdaro hwn yw dyfais y cyfarwydd i wthio cymeriadau'r ddau berson hyn ger ein bron. Sylwer, hefyd, fel y mae digwyddiad yn bwysig. Digwyddiad oedd cyfarfod o Bwyll ag Arawn, ac o'r digwyddiad fe greir sefyllfa ac yna fe deflir golau ar y cymeriadau a datblygu'r stori. Terfyn y mudiad cyntaf yw datguddio Arawn "Arawn, frenin Annwfn wyf i," a dechrau'r ail fudiad yw'r cynllwyno rhwng Pwyll ac Arawn. Trown, wedyn, at ddychweliad Arawn at ei wraig, a'r ymddiddan cyntaf a fu rhyngddynt ers blwyddyn. Mae'r peth yn llawn o gomedi cartrefol. Yr hyn sy'n gwneud y sefyllfa yn un ddramatig yw'r eirioni tawel sydd yn yr ymddiddan. Arawn yn siarad â'i wraig, hithau'n gwrthod ateb, ond yn y diwedd yn edliw iddo ei fudandod parhaus, 'er blwyddyn i neithwyr. Yna, Arawn yn adrodd yr holl hanes, ei wraig yn datgan gywired y bu Pwyll, yntau Arawn yn dweud wedyn, "sef ar y meddwl hwnnw yr oeddwn innau, tra dewais wrthyt," a hithau'n ateb eto "Di-