Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y cyfarwydd yn gwbl eglur. Cofier taw stori i'w hadrodd oedd hon, yn ei ffurf neu ei ffurfiau gwreiddiol, ac nid stori ysgrifenedig. Gellir dychmygu am y cyfarwydd yn rhyw hanner actio ei stori Wrth ei hadrodd i'w wrandawyr, a naturiol, felly, fyddai iddo ymgyrraedd yn gyson at effaith drama.Hyn, ond odid, a es- bonia werth dramatig y stori ysgrifenedig. Pe gellid atgyfodi'r hen gyfarwyddiaid hyn yng Nghymru heddiw, fe fyddai dy- fodol y ddrama Gymraeg yn hollol ddiogel. Gellid codi nifer o enghreifftiau eraill o ddawn dramatig y cyfarwydd yn y gainc hon, ond digon yma i ddangos taw Pwyll Pendefig Dyfed yw'r ddrama Gymraeg gyntaf. D. ANDREW DAVIES. WIL NI STORI FER IAWN. "Der 'ma, Wil bach!" meddai tad y crwt pan eisteddai un prynhawn gydag ymwelwr a ddaeth am fod amser te yn agos. "Nawr 'te, Wil, dangos i Mr. Tomos mai ti yw'r bachgen mwyaf clyfar yn dy glass yn yr ysgol." "Felly wir? Ac mewn beth, 'machgen i?" "Tynnu darlun doniol, syr." "Da iawn. Ond o beth ? O gi neu gath?" "Ie, neu fuwch neu geffyl. Neu ddyn, syr." "Elli di wneud darlun doniol ohono' i ? "Un doniol, 'wetsoch chi ? O'r gore." Aeth y crwt allan ac ymhen dwy funud daeth yn ôl a gosododd ddarlun yn llaw'r ymwelwr. "Ond fachgen ffôl!" meddai hwnnw, "nid oes gennyf fwstas yn hongian hyd fy mrest, na thrwyn sy'n troi fel wel, fel hwn "Ofynsoch chi ddim am ddarlun doniol, syr?" atebodd Wil bach. "Alla i ddim gwneud darlun doniol os rhaid cadw at y gwirionedd a dangos popeth fel y mae Tyfodd Wil bach yn ddyn. Yn fardd gwych, hefyd, yn