Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

medru trefnu'i eiriau yn llinellau ac odlau iddynt, ac yn darlunio'n ddoniol o hyd. "Der 'ma, Wil y Wern!" meddai'r golygydd wrtho un bore. "Mae'r cythraul newydd 'ma o'r enw Mab y Mynydd yn dweud, na chlywodd am ein pupur HEDDIW erioed! Rho olwg dros y peth a gwna bwt o rigwm erbyn heno. Stori ddoniol, wrth gwrs." "O'r gore," atebodd Wil. "Ond cofiwch na alla i ddim bod yn ddoniol os rhaid cadw at y ffeithiau fel y "Gwna fel arfer, Wil. Ysgol newydd. Bydd yn glyfar ac yn ddoniol, hynny o flaen popeth. Cadw ambell ffaith sy'n wir os gelli di. Os na, gwna hebddo. 'Sdim ots, nid yw'n bwysig. Ond bydd yn ddoniol. Fel arfer, Wil, fel arfer. 'Nawr, bant â ti D. P. WILLIAMS Yr ydym yn sicr nad oes angen dywedyd wrth neb sydd yn gyfarwydd â HEDDIW nad oes sail mewn ffeithiau i'r stori fer uchod o waith awdur Tourmalet. -GOL. Y RHEIBIWR Syllais i ddwfn y llygaid glwys, A deall eu lleferydd dwys Gweld disgwyl y gwefusau gwin, A chryndod cariad ar eu min. Ni thyciodd ddim y pledio wnaed Ar Amser i arafu'i draed Ni chlyw, nid erys, ac ni wêl, Hen reibiwr ein munudau mêl. LAWNSLOT.