Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYDDIADUR CYMRO O'R BRAIDD y sylweddolir eto bwysigrwydd ymdrechion yr Urdd i sicrhau cyfran sylweddol o'r grantiau a gynigir gan Gyngoi Iechyd a Hoen at wahanol agweddau'r mudiad i godi safon iechyd yn y deyrnas. Y mae gan y Cyngor hwn syniad eang am faes ei ddiddordeb. Cymer o dan ei adain ymarferiadau corff, gwersylloedd haf, chwaraeon aWyr agored ac o dan do, a mesur helaeth o fywyd cymdeithasol. Felly y sicrhaodd yr Urdd yn ddiweddar ddeuddeg cant o bunnoedd at gostau trefnwyr ymar- fer corff, deuddeg cant arall at ddatblygu gwersyll Llangrannog, a saith gant ar hugain at helpu adrannau i godi clybiau a neu- addau yn eu gwahanol ardaloedd. Cafodd chwech adran rantiau at godi neuaddau neu "aelwydydd" (a defnyddio'r term a fabwysiadwyd gan yr Urdd am y canolfannau hynny) a dy- wedir fod ugain o geisiadau eraill eisoes ger bron y Cyngor. Y mae'r grantiau hyn yn gymorth sylweddol i ardaloedd gwledig, a threfi bychain, godi canolfannau sydd â'u mawr eisiau arnynt nid yn gymaint at ymarfer corff ag fel lleoedd i ganoli a meithrin bywyd cymdeithasol ieuenctid. jg Y mae hyrwyddo ymarfer corff yn rhan o bolisi'r Lly- wcdraeth, ac ymddengys fod dwy farn ar y cymhelliad sydd y tu ôl i'r ymgyrch. Myn rhai mai un o welliannau cymdeithasol yr oes ydyw, a chred eraill yn ddiysgog nad yw'n ddim ond rhan o'r hyn a elwir yn gyffredín yn gynlluniau amddiffyn. Yr hyn sy'n bwysig ydyw cofio fod codi safon iechyd ynddo'i hun yn beth buddiol, bod Ymgyrch Iechyd a Hoen yn un o'r cyfryngau a ddewisodd y Llywodraeth i wneuthur hynny, ac mai i ddwylo mudiadau Seisnig a Seisnigaidd, ac i ofal dynion na wyddant ddim, ac a faliant lai na hynny, am draddodiadau Cymru Gymreig, y syrthiai'r gwaith lleol yn gyfangwbl, oni bai am fodolaeth yr Urdd a'i chyfundrefn barod yn yr ardaloedd Cymreig. Y mae cyfundrefn, amcanion (a rhaid cofio fod yr Urdd yn pwysleisio gofal am y corfí ymhell cyn bod son am y National Fitness Council), a chysylltiadau'r Urdd, yn ei gwneuthur yn gyfrwng derbyniol