Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

laethol, a wnâi gormod o'r cynghorwyr lleol. Dangoswyd yn eglur gan wyr cyfarwydd y gellir gwneuthur y gerddi yn ganolfan cenedlaethol i ddysgu garddwríaeth, a chael ar yr un pryd ddefnyddiau ymchwil i efrydwyr botaneg, i fridwyr planhigion, ac i'r rhai sy'n ymddiddori yng nghlefydau llysiau a choed. O- herwydd hynny gellir disgwyl i'r Llywodraeth, drwy law y Gweini- dog Amaeth, gyfrannu peth at y gost flynyddol. Yr oedd grym yn nadl Sir Drefaldwyn mai'r Llywodraeth a ddylai ddwyn y gost i gyd. Petai gennym Lywodraeth ganolog Gymreig honno a fyddai'n dwyn traul sefydliad fel hwn. Breuddwyd yw'r lly- wodraeth honno hyd yn hyn. Ond y mae lluosogi sefydliadau cenedlaethol yn cryfhau'r ddadl dros hunan-lywodraeth, ac y mae cydweithio rhwng de a gogledd yn llywodraeth a rheolaeth y sefydliadau hyn yn fagwrfa i fywyd cenedlaethol cryfach a mwy pendant. Os cymerwn ein dysgu, athrawon yw'r sefydliadau cenedlaethol— yr Eisteddfod, y Brifysgol, y Llyfrgell, yr Amguedd- fa, a'r Gerddi— i'n harwain at y bywyd cenedlaethol cyflawn, nas ceir ond ar lwybr ymreolaeth. Yna y daw'r genedl í'w heti- feddiaeth, ac y cilia plwyfoldeb i'w Ie ei hun. Y mae gwir angen ein dysgu yng Nghymru i adnabod y rhagor sydd rhwng sefyd- liadau cenedlaethol a sefydliadau lleol, a chodi'r sefydliadau cenedlaethol uwchlaw ystyriaethau tref a phlwyf a rhanbarth. Y mae i ystyriaethau lleol eu lle priodol eu hunain, ond ni ddylid un amser ganiatau iddynt gyfyngu ar randir y sefydliadau cened- laethol. Na thwyller neb, cyfyngu a wnânt hyd oni chryfheir yr ymdeimlad cenedlaethol yng Nghymru, a meithrin ewyllys y genedl a'i gwneuthur yn gadarn. Os hynny a wneir, y dydd y daw ewyllys genedlaethol i'w hoed y coronir gwaith y sefydliadau cenedlaethol, ac y rhoddir iddynt yn ddiwarafun yr wrogaeth sy'n -ddyledus iddynt. Y dydd hwnnw hefyd y daW ymreolaeth i Gymru. IEUAN RHYDDERCH. OL RHSFYMNÄÜ HEDDIW. Y MAE GENNYM GYFLENWAD BYCHAN O OL- RIFYNNAU'N AROS. ARCHEBER AR UNWAITH. GWASG HEDDIW, 9, HEATHFEILD ST. ABERTAWE.