Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOHEBIAETH At Olygyddion HEDDIW. Annwyl Foneddigion, Cofiaf ddywedyd ohonoch wrth ddechrau eich gwaith golygyddol na olygid i'r cylchgrawn hwn fod yn offeryn yn nwylo unrhyw blaid wleidyddol. Yn gyffredinol, y mae'n dda gennyf i hynny fod yn wir amdano. Ymdriniwyd â gwleidyddiaeth yn fynych, wrth reswm, ond ni chyfyngwyd y maes i un blaid ar- bennig. Cenedlaetholwyr Cymreig a sgrifennodd amlaf, ond yr unig reswm am hynny, hyd y gwelaf i, ydyw mai Cenedlaetholwyr yw mwyafrif llenorion Cymru heddiw. Sgrifennwyd hefyd gan wvr fel Iorwerth C. Peate, J. Roose Williams ac eraill, ac ystyriaf fod cyfraniadau Mr. Peate yn arbennig, yn cynnwys ei drafod- aethau gwleidyddol (e.e. ar "Y Ffordd Fawr") bob amser yn rhai gwerthfawr. Tybiaf fod nodiadau Mr. Cyril P. Cule ar "Gwrs y Byd" mewn dosbarth gwahanol. Defnyddiodd Mr. Cule ei ofod yn ddieithriad er mwyn gwneud propaganda dros y Blaid Gom- iwnaidd. Ni ellid gwrthwynebu mynegiadau achlysurol o'r saf- bwynt hwn, ond nid teg, i'm tyb i, yw cyflwyno adran o HEDDIW yn gyson i fod yn bamfíledyn ar linellau The Left Review. GeHir honni yn rhesymol nad yw'n bosibl edrych ar hynt y byd heddiw heb fabwysiadu agwedd arbennig. Cyhoedda Mr. Cule mai dwy agwedd yn unig sy'n bosibl mewn gwirionedd bod y byd heddiw yn faes ymgiprys rhwng "Democratiaeth" a "Ffasgiaeth." Cafodd ef ei hun brofiadau chwerwon yn Sbaen, ond y mae'n werth sylwi na ddaeth pawb a gafodd adlais o'r profiadau hynny i'r un casgliad syml. Ymhlith y Cymry, sgrifennodd Mr. J. Williams Hughes gryn dipyn am a welodd yn Sbaen. Y mae cydymdeimlad Mr. Williams Hughes gyda'r un ochr, ond y mae 'n amheus gennyf a fyddai ef yn barod i gefnogi rhyfelgarwch anniffodd Mr. Cule. Bydd pawb yn cytuno i resyna at yr hyn sy'n digwydd heddiw yn Sbaen a Tseina a gwledydd eraill, ond ni bydd pawb, yn sicr, yn cytuno bod panacea yn esboniad syml a hylaw Mr. Cule. Yn y lle cyntaf, y mae'n eglur i lawer ei bod yn fformiwla dwyllodrus, fel pob fformiwla arall a geisiodd rannu'r byd yn angylion a chythreuliaid. Er enghraifft, gwyddys am Loegr "ddemocrataidd", iddi dywallt mwy o waed yn ddiweddar ym Mhalesteina nag a wnaeth yr Almaen "Natsiaidd" oddi ar orsedd- iad Hitler, er gwaethaf ei erlid ar yr Iddewon. A ydyw bywydau Arabiaid yn llai cysegredig na bywydau y rhelyw o'r hil ddynol ? Ymhellach, ni chlywais fod gynnau "democrataidd" yn gallu