Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gwneud angau yn freuddwyd bêr, na cholli gwaed yn llesmair hyfryd. O droi'r gynnau hynny yn erbyn yr Almaen a'r Eidal a Siapan, a sicrheid wedyn eu bod yn gyfryngau cyfiawnder yn lle bod yn offerynnau dinistr ? Deil y Comiwnyddion i ddysgu bod rhyfel ideolegol neu egwyddorol yn beth cymeradwy ac anochel. Un peth a wn i am bob rhyfel, er ei bortreadu yn grwsâd sanctaidd a chyfiawn peth dieflig ac annynol ydyw, yn peri tranc pob delfryd ac egwyddor dda, yn dwyn, pan ddelo'i ddiwedd, ddefnyddiau rhyfeloedd newyddion yn ei groth frwm- stanaidd. Yn yr ail Ie, trwy ddysgu bod rhyfel yn anochel, y mae athroniaeth Mr. Cule yn prysuro ei ddydd. Y mae felly yn athroniaeth beryglus a gwenwynig. Gellir cytuno â'r condemn- iad o "Ffasgiaeth"— yn yr Almaen, etc., ac yn Lloegr-ond ni ddylid anghofio, wrth ystyried Comiwniaeth, mai hi sy'n hanes- yddol gyfrifol, i raddau, am fodolaeth Ffasgiaeth. Bu adeg, er enghraifft, pan oedd Comiwniaeth yn gryfach na Natsiaeth yn yr Almaen. Adwaith yn erbyn erchyllterau Comiwniaeth ydoedd un o agweddau pwysicaf mudiad Hitler; yr oedd hefyd, wrth gwrs, yn wrthryfel yn erbyn y cytundebau heddwch. Dywedodd yr Athro George Catlin mai dau wr sy'n foesol gyfrifol am bolisi Hitler, sef yw y rheini, Clemenceau a Lenin. Y mae gwreiddiau'r weledigaeth ysig yn Versailles a Moscow. Un peth yn unig a all adfer dynioliaeth fwyneiddiach yn yr Almaen nid casineb tan- llyd y Comintern, eithr ewyllys da mewn gair a gweithred o du'r Galluoedd Mawrion eraill. Amlinellais fy ngwrthwynebiad i'r nodiadau. Hoffwn awgrymu y dylid rhoddi cyfle cyson i rywun o olygiadau gwa- hanol i Mr. Cule sgrifennu ar y materion hyn. Y mae yng Nghymru Fudiad o Heddychwyr. A fyddai'n bosibl gwahodd un o'i arweinwyr, sydd hefyd yn hyddysg mewn materion cyd- wladol-iel y mae Mr. Cule, yn amlwg— egluro eu safbwynt hwy o bryd i bryd, a hynny yn gyfochrog â Mr. Cule, neu am yn ail ag ef ? Yr eiddoch yn ffyddlon, CYMRO IFANC. CWRS Y BYD Tsecosloîacis. AR ôl buddugoliaeth gyfiym y Rwsiaid ar ffiniau Manchur- ia, buddugoliaeth y Sbaenwyr ar ffrynt yr Ebro, a sŵn anesmwythder mawr gwerin yr Almaen a'r Eidal, yr oedd yn rhaid i Chamberlain wneud rhywbeth i achub cyfundrefn Hitler,