Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

chwerwedd ofnadwy yn ei lais. Beth a ddywed pobl Sbaen heddiw, a'r sŵn ar led bod llywodraeth Prydain am eu gwerthu i Mussolini ? Gallwn farnu oddi wrth y cartwn a ymddangosodd mewn papur Sbaenig yn ddiweddar, yn darlunio Franco yn dihuno yng nghanol y nos a golwg obeithiol ar ei wyneb gan ddywedyd, "Onid oeddwn yn breuddwydio bod Mr. Chamberlain wedi dyfod ar ymweliad i mi?" Anhawster mawr cefnogwyr Franco heddiw yw bod y Doctor Negrin, trwy anfon y milwyr tramor adref i gyd heb rwgnach, wedi dangos i'r byd maí rhyfel i amddiffyn y wlad yw rhyfel Sbaen. Arfau sydd eisiau ar Sbaen heddiw, nid dynion. Yr oedd dynion y Brigâd rhyng-genedlaethol yn help mawr ar y dechrau, oherwydd eu cymwysterau arbennig, ond erbyn hyn, y mae digon o Sbaenwyr wedi eu hyfforddi ym materion milit- araidd. Gwell i'r ddeng mil o dramorwyr fynd adref a helpu yn y gwaith mawr o ddweud y gwir wrth eu cydwladwyr. Peth digri yw gwcled Mussolini yn ceisio ein twyllo bod Eidalwyr Franco yn dychwelyd hefyd. Palesteina. Gwelaf fod Ffrainc am rwystro'r Cencdlaetholwyr Arab- .aidd ym Mhalesteina rhag cael arfau trwy Syria. Dyna bolisi "peidio ymyrryd." Mentraf ddweud pe bai Prydain, yr Eidal a'r Almaen yn "peidio ymyrryd" yn y wlad honno, y buasai'r Arabiaid a'r Iddewon yn medru cytuno â'i gilydd yn lled dda. CYRIL P. CULE. I'w Gofio Dydd y Cadoediad. "In 1912 the Disarmament Conference assembled and almost its earliest discussions were centered around the possi- bility of the total abolition of Air Forces or, at least, the aboli- tion of the artillery of the air I had the utmost difficulty at that time amid public outcry in preserving the use-of the Bombing Aeroplane cven on the Frontiers of the Middle East and India." Arglwydd Londonderry, 1935.