Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O. B. E. (Am wasanaeth cyhoeddus). Symudai'n dawel ymhlith llestri'r seld, Chwiliai am friwsion yn ei newyn mawr Symudai'n ddistaw rhag i'r gath ei gweld, Rhaid cynhaeafu'r briwfwyd cyn y wawr. Tamaid o gaws neu fenyn oedd ei bwyd, Tipyn o fara pan oedd pethau'n brin Y gyfrwys fechan yn ei gwasgod lwyd Yn chwilio'r gronyn olaf ymhob tin. Pwy faidd roi terfyn ar ei rheibus rawd? A'i rhwydo cyn difetha moethau'r lle? Rhuthrodd y gwron dewr i'r pecyn blawd, A daliodd hi o dan y cwpan te. Heb gyfoeth mawr ac heb urddasol ach, Arbedodd Gymru rhag llygoden fach. T. E. NICHOLAS. PENNAETH YR A.R.P. Diddorol iawn yw sylwi ar yrfa Syr John Anderson, a bencdwyd yn Weinidog yr A.R.P. Ef oedd yr Is-Ysgrifennydd yn nyddiau ofnadwy'r Black and Tans. Yr oedd hefyd yn y Swyddfa Gartref yn helpu'r cynlluniau i ladd y Streic Gyffredinol ac yna anfonwyd ef i Bengal i ddiddymu'r "terrorists" yno. Yn awr y mae yn aelod o Fwrdd Cwmni Vickers y gWneuthurwyr arfau enwog. Cyn hir fe gaiff Cymru glywed oddiwrtho a diau y bydd yn dda ganddo glywed y caiff, yn y dydd hwnnw, gymorth ein prif wythnosolyn, y Cymro, í ddarbwyllo'r Cymry hwyrfrydig, o ddiniweidrwydd, ei gynlluniau cyfrwys.