Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TABITHA Dyma Nofel newydd gan awdur newydd, un y bydd sôn amdano rhyw ddydd fel un o brif nofelwyr ein gwlad. Darllenwch beth a ddywed Y FANER am y nofel:- "Dylai pawb a gâr stori gyffrous dda ddarllen "TABITHA," ac eto Y BRYTHON— "Anodd dirnad sut y medr Gwasg Gymraeg Foyle fforddio dwyn allan lyfrau sylweddol am brisiau mor isel. Buasai nofel yn Saesneg o faint TABITHA— ac efallai un waelach o lawer-yn costio chwech swllt neu saith a chwech. Y mae TABITHA yn werth ei phris, ac yn wir deilwng o astudiaeth yn gymaint â bod ganddi o leiaf un wers arbennig i'r genhedlaeth hon. Llongyfarchwn yr awdur a'r argraffwyr, ac yn enwedig y cyhoeddwyr anturiaethus, ar ddiwyg y gwaith ac iselder ei bris. Nid oes angen dweud rhagor parthed neges bwrpasol y stori na'i bod yn dra amserol; na rhyw lawer ychwaith am ei deunydd a chynllun ei hadrodd." Pris y nofel "TABITHA" gan R. Gwyndaf Jones ydyw-3/6. Archebwch y nofel gampus hon ar unwaith oddi wrth eich llyfrwerthwr. Gellir ei chael oddi wrth y Mri. W. H. Smith & Son, Ltd., a Wyman & Sons, neu oddi wrth y cyhoeddwyr (cludiad 4d). Gwnewch gymwynas a'ch cyfeillion drwy eu hanrhegu gyda chopi o "Tabitha." Cwmni Cymraeg Foyle, Cyt., 121, Charing Cross Rd., Llundain, W.C.