Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Enwau Afonydd a Nentydd Cymru, gan R. J. Thomas, M.A., Cyf. 1. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1938. Tdd. xxii, 235, lOs. 6d. Ffrwyth gwaith ymchwil yr awdur fel cymrawd Prifysgol Cymru ydyw'r gyfrol hon, a hyfryd yw cael croesawu ymdrin- iaeth mor feistrolgar ac ysgolheigaidd, ar bwnc sydd mor anodd mewn mwy nag un ystyr. Dewisodd Mr. Thomas faes eang — efallai rhy eang i un dyn ei weithio'n drylwyr, ac wrth gwrs nid yw'n honni iddo ddi- hysbyddu'r pwnc. Byddai gwneuthur hynny yn golygu ymweld â phob lle a mynd trwy ddogfennau a gweithredoedd tir cannoedd o stadoedd-gorchwyl amhosibl i un dyn ei wneuthur ar ei ben ei hun. Er hynny, dogfennau'r stadoedd yn unig, gan amlaf, a all ddangos i ni hen ffurfiau enwau nentydd bychain. Yn arbennig y gweithredoedd tir hyd at ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, oherwydd ceir ynddynt hwy, fel rheol, enwau fhniau'r darn tir dan sylw, a nant, pe digwyddai un, a ddefnyddid yn aml fel y ffin hwylusaf. Ceir llawer o'r gweithredoedd tir hyn wedi eu rhoi ynghadw gan eu perchnogion yn y gwahanol lyfrgelloedd .a gwnaeth yr awdur ddefnydd helaeth ohonynt. Ond erys llawer eto ynghudd mewn swyddfeydd stadoedd, a chyfreithwyr, yma, .ac yn Lloegr. Hefyd, gan fod llawer o'r hen stadoedd wedi newid a'u rhannu gymaint (yn arbennig yn y De) y mae llawer o weithredoedd tir a dogfennau ar wasgar heb eu darganfod, a llawer wedi diflannu am byth. At hynny, ychydig o gymorth a geir wrth fynd trwy'r cofnodion lawer sydd yn Swyddfa'r Cofrestri Cyhoeddus. Gwir bod rhai siroedd yn gyfoethocach na'i gilydd yn hyn o beth, ond ar y cyfan y mae Cymru yn anhraethol dlotach na Lloegr mewn ffynonellau cynnar, a rhaid felly pwyso cryn dipyn ar y ffynhonnell breifat leol i ddod o hyd i hen ffurf enw He ac afon. Yn wyneb yr anawsterau hyn, ni allwn na ryfeddwn at lafur maWr Mr. Thomas yn casglu, o amryw ffynonellau, y miloedd hen ffurfiau sydd ganddo. Eithr o ganlyniad hefyd i hyn .dichon y bydd yn rhaid iddo ail-ystyried ei esboniadau ar yr enwau hynny lle y dibynna, yn wyneb absenoldeb ffurfiau hyn, ar ffurf y gair fel yr ymddengys ar y mapiau. Rhennir y gwaith yn un bennod ar ddeg ac yng ngeiriau'r awdur ei hun "Y cynllun a fabwysiadwyd ynglyn â threfniant y gwaith hwn oedd ymdrin â'r enwau afonydd a nentydd yn ôl yr ôl-ddodiaid a welir ynddynt, a chymryd y rheini yn nhrefn yr egwyddor", (td vii.) Rhoddir pennod ar gyfer pob ôl-ddodiad ac esboniad cryno o ystyr a tharddiad yr ôl-ddodiad ar y dech-