Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHOED un dan lanw'r môr, A saith a wnaed yn weddw Heb derfysg wrth eu dôr Na malltod gwyliwr meddw. Daeth cawod niwl fel rhwyd A deflir funud awr, A'r lleidr ysgafnllaw llwyd O'r Foel i'r Frenni Fawr. Taflwyd ei milmil magl A chwim fu'r miragl maith. Ildiodd saith gantref hud Eu hysbryd, gyda'u hiaith. Heb derfysg wrth eu dôr Rheibiwyd cartrefi gwŷr. Hyd hyfryd lannau'r môr Mae llongau meibion Llŷr ? Pan ddaeth y golau claer Nid oedd na chaer na chell. Cyn dristed oedd y saith Â'r paith anhysbys pell Na chlybu acen bêr, Nas gwelodd neb ar hynt Ond haul a lloer a sêr A'r di-greëdig wynt. A'r ddau amddifad bro Dan dristyd hwnt i'r deigr, Ebr ef, Awn ymaith dro," Ac aethant, parth â Lloegr. HEDDIW CYF. 5, RHIF 2 MEHEFIN 1939 DIWEDD BRO WALDO WILLIAMS.