Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLYGYDDOL Y ıιτлε arwyddion fod y Mesur Gorfodaeth a wthir ar ieuenctid ein gwlad yn dechrau dihuno'r bob!. Y mae'r hanes am y cyfarfodydd lluosog a geir yn y Gogledd a'r De yn rhoi rhyw obaith inni nad yw annibyniaeth meddwl a chryfder argyhoeddiad wedi llwyr ddiRannu o'r tir. Wedi'r Rhyfel Mawr teimlai'r werin yn gyffredinol iddi gael ei thwyllo, ac ar y pryd mynegodd amryw o wyr blaenllaw'r Blaid Lafur, megis Philip Snowden, eu drwgdybiaeth a'u gwrthwynebiad pendant i Heddwch Versailles.' Ac am flynyddoedd wedyn bu'r Blaid Lafur yn brysur yn dadansoddi achosion y rhyfel a'i ganlyn- iadau, a dangos yn ddigon eglur mai'r ymdaro rhwng buddiannau ymerodraethau ydoedd achos y rhyfel a'r Heddwch a'i dilynodd. Beunydd beunos clywsom areithiau gan siaradwyr y blaid honno, yn esbonio'r ddam- caniaeth hon, ac yn galw ar ei haelodau i ymwrthod â chynlluniau ail-arfogi, gan ddweud mai yn unig er mwyn amddiífyn buddiannau'r ymerodraethwyr a'r ecsploitwyr y'u defnyddid pan ddeuai rhyfel. Ond gwawriodd tran- noeth y drin, a phwy sydd uchaf eu cloch yn galw am arfau a mwy o arfau, ond arweinwyr brwd y Blaid Lafur, ac yn eu plith aelodau Cymreig y blaid honno! Ond pam y newid? Un ddamcaniaeth y gellid dwyn llawer o ffeithiau i'w chadarnhau yw, mai cenedlaethol- wyr Seisnig yw rhelyw aelodau y Blaid Lafur yn y bon, ac er eu holl siarad am eu hegwyddorion sosialaidd, a'u dadansoddi realistig o'r sefyllfa,-pan yw hwnnw'n ddigon pell oddi wrthynt, — eto pan ddaw hi'n ddydd cyfyngder ar Loegr a'i hymerodraeth, yna profir bod canrifoedd o dra- ddodiad taeogaidd yn drech na'r holl ddamcaniaethau, ac yn pylu pob dawn dadansoddi. Ac wrth gwrs, y mae'r