Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MYNWENTYDD Y CRYNWYR YN SIR GAERFYRDDIN BRYNMAEN YN yr ail gannf ar bymtheg, pan oedd gorthrwm ac erledigaeth ar yr Anghydffurfwyr yn gyffredin, mewn tai y byddai'r Crynwyr yn addoli. Benthyg y tai weithiau, bryd arall yn eu prynu. Hawdd, felly, yw deall y term Tý Cwrdd." Byddai perchen y tŷ gan amlaf yn rhoddi ei ardd at wasanaeth y Crynwyr fel mynwent, ac mi fyddai gardd gladdu yn beth cyffredin os byddai rhyw Grynwr yn berchen y tŷ a'r ardd. Ffermdy yw Brynmaen, tua dwy filltir o Landeilo, a rhan o'r clôs neu gowrt y ffarm yw yr hen fynwent yno. Gyda'r trefniadau teithio sy gennym ni heddiw, gellir yn hawdd gyrraedd Brynmaen. Wedi gadael Llandeilo troir ar y chwith ar y ffordd sy'n arwain i Dal-y-llychau (Talley) nes dod i ffordd arall sy'n troi i'r chwith. Yno gwelir mynegfys â Salem arno. Ar y cyswllt yma o'r ddwy ffordd gwelir ty, sydd newydd ei ail-adeiladu. Dyma'r hen Dy Cwrdd y bu'r Crynwyr yn addoli ynddo am rai blynyddoedd, ond to gwellt oedd arno bryd hynny. Os eir heibio gyda'r modur, ar y ffordd sy'n arwain i Salem, a throi ar y dde wedi mynd rhyw dri chwarter milltir, deuir i glôs ffarm Brynmaen. Yno mae'r fynwent o'ch blaen. Amgylchir hi gan wal garreg pum troedfedd a chwe modfedd o uchder, 24 troedfedd o hyd, a 22 troed- fedd o led. Mae'r olwg gyntaf arni yn awgrymu hen ffald. Ceir hefyd giât (neu glwyd, fel y dywed pobl Mor- gannwg) haearn drom yn diogelu adwy'r clawdd, ac arni FRIEND BURIAL GROUND 1870. Ni wn ar hyn o bryd pwy yw perchen Brynmaen, ond yn 1908, eiddo Syr Lleufer Thomas oedd hi. Ond y