Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYDDIAU DIFYR YN NULYN (SGWRS RADIO) Dwy flynedd a dreuliais yn Nulyn, prif ddinas Iwerddon, neu ddwy flwyddyn coleg, a siarad yn fanwl, gan fod cymaint o wahaniaeth rhwng y ddau beth. Y mae wyth mlynedd bellach oddi ar yr ymweliad cyntaf, a thros bedair oddi ar yr ail. Y mae manylion y siwrnai gyntaf o Aber- tawe i Ddulyn, trwy Abergwaun a Rosslare, yn dal yn fyw iawn yn fy nghof. Gadael Abertawe ganol nos. Yn gwmni yn y trên yr oedd dau Wyddel canol oed, oedd yn gwbl ddieithr i mi. Penderrvnais gysgu ci bwtshwr er mwyn cael cyRe i ddechrau deall ychydig ar y bobl yr oeddwn i dreulio'r misoedd nesaf yn eu plith. Dyna ichi," meddai'r naill wrth y llall ar ôl rhoi digon o amser i mi suddo i dir cwsg, Dyna ichi beth na chlywir gan ein plant ni." "Ie ond," meddai'r llall, y mae pethau'n gwella gyda'r ysgolion newydd." Deellais yn fuan mai testun eu siarad bellach oedd fy mod innau wedi ffarwelio â'm rhieni yn Gymraeg. Aethant ymlaen i drafod amryw- iol agweddau o'r adfywiad Gwyddelig yn ein hoes ni — addysg, pwnc yr iaith Wyddeleg, gwleidyddiaeth, newid cymdeithasol-yr oedd un o'r ddeuddyn hyn yn mynnu mai ar ei hanner yr oedd y frwydr o ddymchwel yr hen drefniadau, a'r Hall gyda'i Ie, ond parhaus yn ymfodd- hau yn yr hyn a gyflawnwyd eisoes. Edrychaf yn ôl ar y ddau yna fel cynrychiolwyr teg o'r ddau feddwl oedd yn rhannu Iwerddon rhyngddynt yr adeg honno. Erbyn hyn yr ydys yn gweld yno yn gliriach o lawer nad gwiw sôn am gadw cenedl yn fyw heb ail drefnu ei bywyd economaidd i'r perwyl hynny. Sylwais fod y ddau yn gytûn yn eu beirniadaeth law- drwm ar y SAIS, ond cyn pen hir, daeth gwr digon llwm yr olwg arno i'n plith — gwr o Hampshire fel y cawsom ddeall