Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I orffen, y mae'n hyfrydwch gennyf dystio am y caredigrwydd di-ben-draw a welais ar law pobl Ddulyn. Fe'u cefais yn bobl ddifyr tu hwnt, a gwelais lawer i'w edmygu yn eu bywyd. Eu crefydd, eu cariad at eu gwlad, hiwmor, dawn ymddiddan, absenoldeb gyrru annynol ar ddyn, tempo cymharol araf bywyd y ddinas-y mae'r holl bethau hyn wedi helpu i gadw dynion yno rhag suro, a rhag troi'n fân olwynion ym mheiriant cymdeithas sy'n orfasnachol ei bryd. DAVID MYRDDIN LLOYD. OS AM LETY CYSURUS, TAWEL A CHYFLEUS PAN AR EICH YMWELIAD A LLUN- DAIN, DOWCH I'R POBCYSUR TANAU NWY, DWFR OER A PHOETH. Ymofynnwch am delerau oddi wrth y gwestywr: Tel. EUSton 1551 J. OWEN JONES.