Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IMPERIALAETH A HEDDWCH AGORAIS yr argrafhad newydd o'r llyfr safonol ar Imper- ialaeth* ar ddamwain ar dudalen 127. Dyma a ddarllenais yno: Cred y rhai sy'n cymryd si vis pacem para bellum yn arwyddair, mai arfau yn unig a rydd y sicrwydd gorau am heddwch. Sail y gred hon yw eu tyb fod gwir wrthdrawiad parhaol rhwng buddiannau'r bobl- oedd y gelwir arnynt i ddioddef yr aberth gwrthun hwn. "Datguddiodd ein dadansoddiad economaidd mai buddiannau clymbleidiau o wyr busnes yn unig sy'n gwrthdaro; a bod y clymbleidiau hyn yn traws- feddiannu awdurdod a llais y bobl, yn defnyddio adnoddau'r genedl er eu lles personol, ac yn gwario arian a gwaed y werin yn y chwarae milwrol anferth a thrychinebus hwn, gan ffugio gelyniaeth rhwng cenhedloedd nad oes iddi sail mewn sylwedd. Enghraifft a fydd yn hynod mewn hanes o'r cam- ddefnydd hwn 0 genedlaetholdeb — myfi sy'n ital- eiddio-" oedd Rhyfel Deheudir Affrica, a yrrwyd yn ei Raen gan hapchwaraewyr aur er mwyn eu dibenion preifat." Ni ellid cael testun cymhwysach na'r geiriau hyn i bregeth economaidd ar heddwch a rhyfel: er cymaint a sgrifennwyd ar imperialaeth, anaml y disgrifiwyd hanfod y clefyd mor gryno, a chyda pheth syndod y cohr mai yn 1902 y cyhoeddwyd y geiriau hyn gyntaf. Y mae Mr. Hobson bellach mewn gwth o oedran: treuliodd y rhan fwyaf o'i oes i bregethu efengyl economaidd a ystyrrid Imperialism, a Study, gan J. A. Hobson. George Allen and Unwin 1938. tdd. xxx, 386; 8s. 6d.