Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn y dyfodol am gynhaliaeth. A chan fod y rhan fwyaf o boblogaeth Lloegr yn dibynnu ar logau tramor, nid oes obaith i Gymru ddatblygu'i hamaethyddiaeth a'i diwyd- iant fel y dylai hi, ond ar wahân i Loegr. MYRDDIN GARDI. ER COF FE welaist ysblander y nos ar y gwenyg yn gorwedd Fel mantell a daflodd Diana dros dduwch y don; Arhosodd dy lygaid yn hir ar yr wybren ddigyffro A golud aneirif ei gemau i gyd ar ei bron. Fe glywaist ti ddadwrdd diystyr y môr ar y marian, A chweryl y cerrig wrth geisio gwrthsefyll y lli; A hyfryd i'th glustiau oedd gwrando gwag gerddi'r awelon A gwylan o'i chrud ar y gorwel ing yn ei chri. Rhyfeddaist at fawredd gerwinder y dyfroedd direol, A mynych y soniaist am wychder ofnadwy y nef; Siaredaist am ryfedd gyfaredd yn rhwyd am dy galon, Yn anterth gorfoledd at Anian dyrchefaist dy lef. Ac eto, ni wyddet fod calon Yn d'ymyl yn gwaedu'n ddi-ball, Ar dorri gan angerdd, a thithau Yn fyddar, yn fud ac yn ddall. B.W.