Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a llafurio'n dawel ond yn ddiwyd yn eu cylchoedd hwy eu hunain i lefeinio'r gwasanaeth y maent ynddo. Y mae hyn eisoes yn dig- wydd mewn llawer cylch ac y mae'r gwaith a wneir yn llawer mwy parhaol ac effeithiol na blynyddoedd o weiddi ar lwyfannau. Nid bod gennyf wrthwynebiad i'r gweiddi eithr na thybied y gweiddwyr mai hwy yw'r unig bobl a wasanaetha'u gwlad. Ac nid wyf yn gweld bod y gweidd- wyr yn hwyrfrydig i dderbyn swyddi a distewi, pan gaffont gyflc Ac eto'n aml iawn gweiddi am bethau arwynebol a wneir a gadael y problemau sylfaenol o'r neilltu. Un o'r dig- wyddiadau tristaf yn hanes diweddar Cymru yw'r camwri a wneir yn enw addysg yn y siroedd gwledig. Y mae Pwyllgor Addysg sir Drefaldwyn eisoes wedi cymeradwyo cynllun i ad-drefnu holl ysgolion y sir, gan gynllunio rhyw ddwsin o ganolfannau lle y cyfodir Senior Schools, ar gost o dros gan mil o bunnoedd. Y bwriad yw anfon holl blant y sir i'r ysgolion hyn (a hyd yn oed dderbyn tua hanner cant o blant o sir Amwythig!) cyn gynted ag y byddant yn un ar ddeg mlwydd oed. Bydd costau eu cludo'n bum mil o bunnoedd y flwyddyn. A'r trasiedi yw fod y cynllun hwn wedi'i drefnu heb roddi unrhyw ystyriaeth (yn ôl yr Adroddiad) i broblem yr iaith a'r diwylliant o gwbl. Y mae ym Maldwyn ardaloedd Cymraeg helaeth sydd bron yn uniaith. Seisnig yw mwyafrif mawr y canolfannau a ddewiswyd a bydd Cymry bychain Maldwyn yn cael eu cludo bellach i amgylchfyd estron yn yr oed hawsaf posibl i ddylanwadu arnynt-a hynny yn enw addysg. Gan fy mod yn trafod y broblem yn llawn mewn cylchgrawn arall, ni wnaf ond ei nodi yma, a gofyn eto pa Ie mae'r gwleid- yddion sy'n gweiddi cymaint o hyd am bethau eilradd. Deallaf fod yr ad-drefnu hwn yn digwydd ers tro yn y cwbl o'r siroedd gwledig. Rhaid, meddai'r cynghorwyr, dder-