Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

byn awgrymiadau'r Adroddiad Hadow. Tybed? Mae gwrthwynebiad pendant iddynt yn rhai o ardaloedd gwledig Lloegr. Beth petasem ni yng Nghymru yn dechrau trwy weithredu ar awgrymiadau'r Pwyllgor ar le'r Iaith Gymraeg yn yr ysgolion? A sôn am yr iaith Gymraeg, gwrandewais y noson o'r blaen ar Mr. Ifan ab Owen Edwards yn trafod dyfodol addysg ei fab ar y radio. Dywedai nad oedd anhawster ynglyn â'i addysg elfennol. Y mae'n lwcus. Y mae gen- nyf fi fachgen sy'n Gymro uniaith. Bydd wedi tyfu i oed ysgol yn fuan iawn. Ond ysywaeth ni wn i am ysgol yn yr ardal hon lle y caiff ei addysg yn Gymraeg. Yn y rhan o Forgannwg yr wyf i'n byw ynddi, disgwylir iddo wybod Saesneg yn bump oed. Soniais am y broblem y dydd o'r blaen wrth swyddog addysg o Gymro. Ateb hwnnw oedd: Bydd yn ddigon hawdd ido 'bigo Saesneg i fyny.' Eithr nid dyna'r broblem! Yr wyf am iddo gael ei addysg yn ei iaith ef ei hun. Sylw pellach y swydd- og oedd: O wel, bydd yn yr un cyflwr ag yr oeddych chwi a minnau ynddo — Saesneg oedd iaith addysg y pryd hwnnw." Gwir i raddau, ond y mae'r gosodiad yn ang- hywir er hynny. Os oeddym ni'n cael Saesneg yn yr ysgol, yr oedd yr holl fywyd a'r chwarae'r tu allan i'r ysgol yn Gymraeg. Nid yw hynny'n wir am yr ardal hon na llu o ardaloedd eraill bellach. Ni cheir ond Saesneg y tu allan i'r ysgol. Pa gyRe sydd i hogyn o Gymro yn erbyn y fath anawsterau? Ac eto, y mae llu mawr o Gymry yn y cylch. Ond nid am bethau fel hyn y gweiddant. Nid wyf wedi dweud gair am raglenni'r radio ers talwm. Ond bûm yn gwrando'n gyson. Cofiaf yn dda'r dýdd flynyddoedd yn 61 y lluniais y memorandwm a rodd-