Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MEDDYGON CYMREIG ENWOG Y DDAU EVAN THOMAS Er y gwyr pawb am enwau Hugh Owen Thomas a Syr Robert Jones, dau arloeswr mawr meddygaeth esgyrn, digon tebyg mai dieithr yw hanes cynnar eu teulu. Ond yn wir fe ddarllena fel nofel ramant. Ychydig dros ddau gan mlynedd yn ôl fe daflwyd dau blentyn ar y lan yn Ynys Môn gan donnau gwyllt Môr Iwerddon, yr unig rai a achubwyd pan suddodd llong mewn storm enbyd. Ni fedrent siarad na Chymraeg na Saesneg, ac ni ddeallai neb mo'i hiaith hwythau, er y tybid mai Sbaeneg ydoedd. Magwyd y ddau yn Llanfair-yng-ngronwy gan deulu o'r enw Thomas, ac fe'u galwyd ar ôl yr enw teuluaidd. Bu farw'r ieuengaf ohonynt yn fuan, ond tyfodd Evan yn ddyn tal, pryd tywyll. Gwelwyd yn fuan fod ganddo'r ddawn i drin anifeiliaid y fferm pan ddigwyddai anhwylder neu ddamwain iddynt. Dechreuwyd galw arno i drin anifeiliaid ffermydd cyfagos, a deuai amaerîiwyr i ofyn ei gyngor. Trodd at drin pobl, ac fe gafodd gystal llwyddiant ag a gafodd gydag anifeil- iaid. Aeth ei enw yn hysbys nid yn unig trwy'r sir, ond trwy Ogledd Cymru i gyd a thros y ffìniau i Loegr. Dyw- edir iddo gael 3oop. am fynd i Sir Amwythig i roi triniaeth i ddyn a anafwyd yn dost. Bu farw yn y flwyddyn 1814, yn 79 mlwydd oed, ac fe godwyd tabled goffa iddo yn eglwys y plwyf. Yr oedd iddo bump o feibion yn amaethwyr yng ngwahanol rannau o Sir Fôn, a'r cwbl ohonynt yn fedd- ygon esgyrn. Richard, a drigai yng Nghilmaenen, oedd yr enwocaf ohonynt. Bu iddo ef saith o blant, a meddai'r