Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i'fanc am ddeuddeng mlynedd, heb allu gweld ymhellach na chyfrif bysedd bedair modfedd i ffwrdd, ond erbyn hyn gall ddarllen llyfrau. Gall un dyn gerdded Llundain heddiw ei hun, er mai gweld symudiadau ei fysedd o flaen ei lygaid yn unig a fedrai bum mlynedd yn ô1. Cred Mr. Tudor Thomas bellach fod dyfodol disglair i'r feddyginiaeth, ac o ddewis achosion addas sicrheir gwellhad mewn saith o bob deg, ac fe roddir golwg da i un o bob pedwar. O. E. ROBERTS. YR O'WN I'N MEDDWL AM y tywydd, ac mor hawdd gennym siarad yn ddir- mygus amdano. Bydded haf neu aeaf, hindda neu beidio, cawn rywbeth i'w ddweud amdano. Wrth gwrs, rhaid cyfaddef i dywydd braf dynnu ychydig o edmygedd o enau y mwyafrif, ond wfft am fisoedd y gaeaf yma. Ar adeg mor ansefydlog yn hanes y byd a dynion,. diolchwn am gael liecyn o wlad heddychlon i fyw ynddi, lle na ddaw iddo swn erchyll rhyfel, mangre nad oes ynddi arwyddion anesmwythdra, oddigerth, ar adegau, swn llongau awyr yn hedfan i wlad Llyn. Yn ôl a glywir, yr unig ddiffyg yw'r hinsawdd anwadal, ond dyna ein cosb am harddwch mynydd, ac er gwaethaf ei niwloedd a'i law, can mil gwell yw nag aceri o wastadeddau sych, didrefn, heb na bryn na phonc i dorri ar yr undonedd ofnadwy. Clywir, yn yr ysgol, am hinsawdd, neu climate, sy'n nodweddol o bob gwlad neu ranbarth, yr un modd ag y mae glo yn nodweddol o'r Deheudir, pisyn tair yn gysyllt- iedig â'r Albanwr, bargen â'r Iddew, orenau (a llawer o bethau eraill, erbyn hyn!) â'r Ysbaen. Yn wir, ni cllir eu datgysylltu. Maent yn etifeddol--ydynt, siwr.