Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRSO'R BYD* (YMDDIHEURIR I MR. IWAN MORGAN) DDOE yn yr ardd, daeth arnaf chwant Trin Lizzie Jane â chwi y plant: Ond digwyddodd pethau, fy anwyliaid A rhaid sôn am y dictaduriaid. A wyddoch fod gwledydd—a dyma 'nghŵyn— Lle nad oes ryddid i sychu trwyn ? Diolch am fyw ym Mhrydain euraid Erch yw dwrn dur y dictaduriaid. Heddiw, fy mhlant, wrth ddod i'r dre', Gyda Bracchi mwyn y cefais de. Pwy gredai, wrth sipian ei gwpanaid, Ei fod 0 hil un o'r dictaduriaid ? Pan dery Prydain—ym Mhalesteina, India, Ulster, a famaica, Mae'n lladd yn dirion, heb ddamnio'r enaid. Mor wahanol yw ffordd y dictaduriaid Wrth gwrs, nid cnafon yw'r bobl hyn 1 gyd. Clywch y record hwn о Berlin. Hyfryd Trueni am y pêr eosiaid, Eu bod dan ddwrn y dictaduriaid A ddylai Prydain rannu'n ei thro ? Na. Gwell gennyf fi y Status Quo. Mae perygl, blant, i'r byd bob tamaid Fynd i ddwylo brwnt y dictaduriaid. WIL Y WERN. Meddwl yr oeddwn am fy ewyrth Tomos Cwm-yr-Esgair yn ceisio dweud wrth John y Sais am beidio â chwrso'r defaid. "Mind you, John," meddai, don't you curse the sheep!