Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU BEIRDD Y BABELL, dan olygiaeth Dewi Emrys (James). Y Gyfrol Gyntaf. Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1939. TL 129, U 6d. CYFROL yw hon o rai o gyfansoddiadau "colofn farddol" Y Cymro. Ceir rhestr ar y diwedd o feirdd Y Cymro: y mae hon yn ddiddorol ynddi ei hun. Ceir ambell enw a welid gynt ar dudalennau'r Geninen, a llawer o enwau newyddion. Onid yr un person yw H. D. Lewis (Waun Fawr) a Hywel Lewis (Coleg Bangor)—maddeuer imi os mai fy ogham- gymeriad i yw credu hynny. Sylwaf hefyd ar J. E. Jones (Llanbryn- mair)." Ai'r diweddar J.E., y canwr penillion, yw hwn, neu a oes bardd o'r un enw wedi codi yn yr hen ardal wedi'r genhedlaeth a adwaeown i? Ond trown at y gyfrol. Y mae ynddi lu o delynegion, engtynion a sonedau. At ei gilydd, gwell gennyf yr englynion na dim yn y gyfrol. Eithr y mae safon y cwbl yn dda. Yn fy marn i, soned Mr. T. E. Nicholas i'r Nadolig yw goreubeth yr holl gyfrol, ac y mae'n werth ei chael er mwyn hon yn unig. A sôn am y sonedau, rhyfedd gennyf i'r Golygydd, sydd mor ofalus yn y pethau hyn, adael y ffurf Pen-y-berth am Penyberth (gweler Orgraff yr Iaith Gymraeg, t. 12), a gadaet y soned Dinas Dinlle" gyda'r drydedd linell yn rhy hir. Byddaf i'n treulio fy nyddiau'n trafod defnyddiau diwylliant gwerín ein gwlad, ac 0 bopeth a ddaeth i'm llaw'n ddiweddar, fe sieryd y gyfrol hon mor groyw â dim am gynhysgaeth gwerin Cymru. Llongyfarchaf y golygydd a'r cyhoeddwyr ar eu gwaith. IORWERTH C. PEATE. HEN GAPEL LLANBRYNMAIR, 1739—1939. Ysǵrifam dan olygiaeth Iorwerth C. Peate. Gwasg Gomer, Llandysnl. Tt. 8%, dariuniau, 14; 2s. 64. ELENI, y mae Annibyniaeth yng Nghymru yn dathlu ei thrichan- mlwyddiant, a Hen Gapel Llanbrynmair yntau'n dathlu deucanmlwydd- iant ei adeiladau. Penderfynwyd cofio'r ddau ddathliad trwy gyhoeddi Hyfrau arbennig. Er bod Llanbrynmair yn bwysicach o lawer yn ein hanes na bod yn unig yn un o gapcli'r enwad Annibynnol yng Nghymru, y mae'n hawdd deall penbleth y rhai a fu'n gyfrifol am drefnu'r gyfrol. hon. Nid yn unig yr oedd yn rhaid arnynt gadw eu Ilygaid ar gyfrólau dathlu swyddogol yr Undeb, ond yr oedd cyhoeddi cyfrol bwysig Mr. R. T. Jenkins ar eglwys gyffetyb—cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn—wedi cyfyngu ar y maes o du arall. Am hynny, yn he cyfrol unrhyw ar hanes Annibyniaeth Llanbrynmair, cafwyd casgliad o ysgrifau, o dan olygiaeth