Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hall (t. 41). Dywedir ei farw ar y pymthegfcd o Fawrth, 1699. Y mae hynny'n gywir yn ôl y cyfrif a arferid y pryd hwnnw pan ddechreuid y flwyddyn ar y pumed ar hugain o Fawrth, ond yn ôl ein cyfrif ni, a dechrau blwyddyn ar Galan Ionawr, 1700 ydoedd blwyddyn marw Hugh Owen. Y mae'r argraffwaith yn hyfrydwch i lygad, a phieser ydyw diolch i Wasg Gomer ac i Mr. Peate am gynhyrchu cyfrol mor raenus ei diwyg mewn llythyren a darlun, a hynny am bris mor isel. Yn bersonol byddai'n dda gennyf i petai modd cael rhwymiad arall cadarnach na'r un a gafwyd, a'i gael, wrth gwrs, am bris cyfatebol uwch. EVAN D. JONES. TOURMALET (YN GYMRAEG A SAESNEG) AC YSGRIFAU CRWYDRYN gan D. P. Williamg (Mab y Mynydd), Western Mail. Td. 89; 2s. DYMA gyhoeddi mewn cyfrol fach ddestlus anghyffredin y Stori Fer y bu cymaint o helynt yn ei chylch yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn 1938. Cyhoeddwyd y stori Tourmalet yn orau allan o bump a deugain o gyfansoddiadau yng nghystadleuaeth y Stori Fer, a Mr. Tom Parry, Bangor, yn feirniad. Awyrgylch cwbl Ffrengig sydd i'r stori, a'r dieithrwch awyrgylch a'r cefndir estron hwn, yn hytrach na rhagoriaeth ei chrefftwaith fel stori fer, yw ei nodwedd amlycaf. Ni chredaf ei bod o ran crefft cyfúwch ei safon â dwy o storiau eisteddfodol Mr. D. J. Williams, Blewyn o Ddybaco a Blwyddyn Lwyddiannus." Cafodd yr awdur addysg dda mewn Ffrangeg, ac y mae'n lled debyg bod ganddo feistrolaeth dda ar yr iaith a'i harddull. Ond nid yw, ysywaeth, yn gymaint meistr ar y Gymraeg, a gwelir yn y gyfrol hon nid yn unig nifer lluosog o wallau sillafu ac orgraff, ond camsyniadau mewn cystrawen. Cyffredin ac anniddorol iawn ar y cyfan yw'r arddull. Teithiodd yr awdur lawer ar y cyfandir, a cheir llawer o bethau diddorol yn y tair ysgrif ar ddeg a geir yn y gyfrol hon gyda'r fersiynau Cymraeg a Saesneg o stori Tourmalet." Teimlir bod cwmpas yr ysgrifau neu'r erthyglau byr hyn yn rhy gyfyng o lawer i roddi llawn gyfle i'r awdur ddisgrifio'n ddiddorol ei brofiad teithio helaeth. Hyn hefyd a gyfrif yn rhannol am gyffredinedd ac anniddordeb ei arddull yn yr ysgrifau hyn. Yng Nghysgod Vesuvius" yw un o'i ysgrifau gorau. Ni hoffaf ei ddull o roi'r rhifnodau mewn ffigurau yn hytrach nag mewn ysgrifen, e.e., a'i gam yn ysgafn ac yn fywiog fel petai'n 20 oed yn Ile 70." (Gwell fyddai ugain oed yn lle trigain a deg.") Dyma rai gwallau a nodwyd (rhai ohonynt efallai yn wallau argraffu): mae (yn lle mai), t. 8; dynach, t. 10; annhebig, brysai, t. u",