Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cbwmniau (i), t. 27; cynbyddu, t. 28; amryfysedd, t. 35; bererinon, t. 39; Aifftiwr, Gwyddionadur, t. 44; chaledi, t. 56; y Aifft, t. 59; darllennydd, t. 72. Er cystal yr argraffu a diwyg atyniadol anghyffredin y wasgod am y clawr, y mae rhai manion nas hoffaf, e.e., yr hyphen hir sy'n rhy debyg i dash. Dieíthr hefyd yw'r dull o ddechrau paragraff newydd heb adael ychydig ofod cyn dechrau gair cyntaf y paragraff. Gwell gennyf o lawer iawn yr hen ddull y cynefinasom ag ef. Gellir casglu oddi wrth nodyn y cyhoeddwyr ar y dechrau i Mr. D. P. Williams gael hyfforddiant addysgol da, yn enwedig mewn Ffrangeg. Teithiodd lawer, a da fyddai cael ychwanegiadau at lyfrau teithio tebyg i rai Mr. R. T. Jenkins a Syr Owen M. Edwards. Dywedir i wybodaeth Emrys ap Iwan o Ffrangeg ddwyn asbri a bywiogrwydd i'w arddull sgrifennu Cymraeg, a pheri bod ei ysgrifau llenyddol a gwleidyddol a't Homilìau yn rhyddiaith Gymraeg glasur. Pan feistrolo awdur Tour- malet yr iaith Gymraeg i gymaint graddau â'r Ffrangeg, ac ymwybod ag arddull rhyddiaith Gymraeg dda, gellir disgwyl ganddo gyfrol a ddarllenir oherwydd ei hansawdd a'i newydd-deb yn hytrach nag am gynnwys ohoni stori orau ddiwobr, helyntus Caerdvdd. j.T.r. Y DU A'R GWYN YNG NGHYMRU.—Llawlyfr yn ymdrin 8 haint y Dariodedigaeth, gan y Parch. Henry Jones, B.A., B.D. Gwasg Gomer. 1939. Td. 87; 2s. CYCHWYNNA'R awdur trwy wneud haeriad fel hyn: "Ni chafwyd yn Gymraeg hyd yn hyn ond cyfrolau ar (a) Ddiwinyddiaeth, yn cynnwys Esboniadau, Pregethau, Areithiau, Cofiannau, etc.; (b) Llenyddiaeth, yn cynnwys Rhyddiaith, Barddoniaeth, ychydig Nofelau, a Dramâu, etc." Dau lyfr yn unig a wyr yr awdur amdanynt sydd yn trin Gwyddon- iaeth yn Gymraeg. Beth a ddywed Bwrdd Gwasg y Brifysgol wrth y pethau hyn? Y mae'r haeriad yn anghywir i'r eithaf, fel y gŵyr pawb a ddarllenodd lyfrau cyfres Y Brifysgol a'r Werin. Ond y mae amcan y gyfrol fechan hardd hon yn un clodwiw ddigon, oherwydd ceisia ymdrin a phwnc sydd o bwys mawr i ni fel cenedl, sef iechyd. Gwyddom i gyd am y difrod a wneir gan y darfodedigaeth, ac nid yw'r awdur ymhell o'i Ie wrth ddywedyd mai cosb ydyw'r clefyd hwn-" cosb a gWyd o'n tros- eddiad ni o Reolau byw yn naturiol a syml." Credwn y gellir olrhain y rhan fwyaf o'r clefyd i un tarddle, a hwnnw ydyw diffyg maeth. Ofer fydd tai newyddion, a'r symud o'r slymiau, on. sicrheir fod cyflenwad o fwyd maethlon ar gyfer pawb. A buasai'n well i'n gwlad pe rhoddai ein cyfundrefn addysg ychydig mwy o sylw i bwnc bwydydd maethlon, y modd i'w paratoi fel ag i ddiogelu'r fitaminau, ac yn y blaen, nag i gramio