Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

pennau plant â rhywfath o wybodaeth na fydd o un diben iddynt drwy cu hoes. Y gwirionedd trist yw bod Tuberculosis yn ffynnu'n doreithiog-bron mor doreitbiog ag ysgall-drwy holl diroedd Cymru." Ni biau'r italeiddio, ac odid mai hwn ydyw un o resymau pennaf ymlediad cyflym yr haint hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru. Y mae dirywiad amaethyddiaeth yn berygl nid yn unig i fywyd economaidd ein gwlad ond i iechyd ein gwlad hefyd. Tuedda'r arbenigwyr yn fwyfwy at y gred mai cynnyrch tir eu gwlad eu hunain yw'r bwyd mwyaf pwrpasol a mwyaf maethlon ar gyfer ei thrigolion. Y mae holl fywyd economaidd Cymru yn torri ar draws yr egwyddor hon, a gwyddom beth yw'r can- lyniad. Ceir diffyg maeth nid yn unig ymhlith y tlawd, lle y mae prinder bwyd, ond ymhlith y rhai sy'n gymharol dda eu byd. Dengys hyn yr angen am amgenach addysg yn ein hysgolion. Nifer o ysgrifau byr a geir yn y gyfrol hon, ac y mae'n amlwg fod i'r awdur wybodaeth pur eang, os arwynebol, o'i bwnc. Un peth y gellir cwyno o'i blegid, a hynny ydyw ei arddull glogyrnaidd. Y mae gormod o ôl y nifer mawr o lyfrau Gwyddoniaeth yn yr iaith Saesneg" y bu'r awdur yn eu darllen, ar y llyfr drwyddo. Ac yntau yn byw ym mhlwyf Llangeler, disgwyliem weld mwy o olion iaith gref y rhanbarth hwnnw ar ei waith, ond yn lle hynny cawn iaith-wel, mewn gwirionedd, iaith a gysylltir â phulpud y llan. ('Wn i ddim ai eglwyswr yw'r awdur ai peidio.) Er enghraifft, dyma sut y disgrifia ef y ffordd y gwneir ymenyn: Prin angen sydd i egluro mai sylwedd gwêrog llaeth, yn neulltuol llacth y fuwch, ydyw Ymenyn. Didolir ef oddiwrtho yn gyff- redin trwy gynhyrfiadau, megis, yn yr oruchwyliaeth o Gorddi. Y mae'r llyfr yn frith o bethau cyffelyb, a thynnant oddi wrth y mwynhad a geir o'i ddarllen. Ond y mae he i'r math yma o lenyddiaeth, yn enwedig yn y rhannau gwledig, fel y tystia adroddiad Mr. Clement Davies. A. ap T. GWERSLYFR, YN CYNNWYS HOLWYDDOREG AR ACTAU'R APOSTOLION, PENODAU XIII-XXVIII, gaa y Parch. T. H. Morgan, Cwmbwrla, Abertawe. Gyhoeddedig gao yr awdar. Td. 48., 6d. DYMA'R nawfed flwyddyn i'r Holwyddoreg hwn ymddangos, a phrawf y gwerthiant sydd arno o flwyddyn i fìwyddyn ei fod yn llanw lle yn Uenyddiaeth ein hysgolion Sul. Y mae gan Mr. Morgan ddawn i lunio holwyddoreg ddiddorol a fydd yn sicr o ddal sylw plant, a rhoi iddynt wybodaeth fanwl o deithiau Apostol mawr y cenhedloedd, a rhyw syniad o fawredd ei bersonoliaeth a'i lafur dros ei Feistr.