Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLOERGAN FLYNYDDOEDD maith yn ôl, Ddewines welw, Mi welais gyntaf hud dy lygaid di Mor gyfrin â melyndra meddal delw Y lloer yn nofio'n esmwyth yn y lli; Â llinell sydyn yn nhywyllwch coed Pan syrth y lloergan oer ar reiddiau carw: Â mellt dau gledd marchogion yn yr oed Lle brwydrant dan y lloer i fyw neu farw. Fel duwies Lloer yr oeddit ti i mi, A minnau'n eos daer yn canu cân Yn nistaw arian coed ger llam y lli, Yn nistaw arian lleuad lonydd, lân. Ramantiaeth loerig! Cwsg yn noddfa'r bedd Rhag lloer, rhag llinell, rhag y ddau hen gledd. DAVIES ABERPENNAR. HEDDIW: CYF. 5, RHIF 5: MEDI 1939.