Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLYGYDDOL MEWN rhifyn o HEDDIW ryw ddwy flynedd yn ôl, mynegodd Miss Kate Roberts ei barn am yr Eisteddfod Genedlaethol yn y geiriau hyn: Nid eisteddfod yw'r Eisteddfod Genedlaethol ers blynyddoedd bellach ond siou. Ymddengys mai ei phrif amcan erbyn hyn yw tynnu tyrfaoedd a gwneud arian. Ail beth yw noddi diwylliant. Yr unig lenyddiaeth a oddefir yn y babell fawr erbyn hyn yw beirniadaeth yr awdl a'r bryddest, ac mae'n sicr na oddefid y rhai hynny chwaith onibai am siou yr Orsedd." Mesur llwyddiant eisteddfod Dinbych yw'r mesur y llwyddodd hi i ddileu dogn helaeth o staen y cyhuddiadau uchod. Cafodd Miss Roberts, mewn byr o dro, helpu yn y gwaith o ddwyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ôl i lif y traddodiad Cymreig. Dyma'r Eisteddfod Gymreiciaf a gafodd Cymru erioed, ond odid, ac y mae llawer iawn o'r clod yn ddyledus i rai fel Miss Roberts a Morris Williams, yr Ysgrifennydd Cyffredinol, am y graen a welwyd arni yn Ninbych. Yn yr un ysgrif ac a ddyfynnir uchod cynigia Miss Roberts gynllun i ddiwygio'r Eisteddfod. Ac yn y Babell Lên y gwel hi obaith am y diwygiad hwnnw. Yn yr ysgrif hon y ceir y sôn cyntaf am Seiat y Llenorion a fu y fath lwyddiant yn Ninbych. Bu llenyddiaeth yn alltud o'r Listeddfod am ry hir o amser, ac yr oedd llawer gormod o winonedd yng nghyhuddiad Mr. Saunders Lewis mai nawddogaeth aneallus a rydd yr Eisteddfod." Bellach y mae gobaith ei gweld yn cymryd ei rhan ym mywyd llcn- yddol a diwylliannol y genedl. Peth da yw gweld llenorion Cymru yn tyfed at ei gilydd i drafod problemau eu crefft, oherwydd nid oes fod mwy unig ar y ddaear yma na llenor Crmraeg. Nid oes unrhyw fath o gyfathrach rhwng llen- onon Cymru a'i gilydd, ac effeithía hynny yn andwyol ar