Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ein llenyddiaeth. Gall y Babell Lên wneud rhywbeth tuag at wella'r diffyg hwn, ond nid digon fydd un cyfarfod mewn biwyddyn; rhaid wrth gyfathrach gyson. Ac wrth sôn am y mater hwn dyma gyRe i sôn am fudiad sydd ar droed i gychwyn Cymdeithas Lienorion Cymru i'r diben o ddwyn ein llenorion yn agosach at ei gilydd. Pnf symbylydd y mudiad ydyw Davies Aber- pennar, a'i brif waith ar hyn o bryd ydyw cael gafael mewn unrhyw lenorion ieuainc sydd yn awyddus am ymuno â chymdeithas o'r fath. Ei syniad ydyw trefnu cyfarfodydd mwy neu lai cyson lle y trafodir problemau crefft y llenor yng Nghymru. Credwn y gall y mudiad hwn esgor ar gyfnod newydd yn hanes llenyddiaeth Gymraeg, ac am hynny bydd yn bleser gan HEDDIW wneud a allo i hyr- wyddo'r mudiad. Unwaith eto clywyd dadl gref yn cael ei mynegi dros greu llenyddiaeth ysgafn i'r Cymry. Y tro yma fe'i mynegwyd gan Ffrancwr ifanc yn Seiat y Llenorion yn Ninbych, a diau ei fod yn lleísio un o anghenion pennaf Cymru heddiw. Y mae nifer darllenwyr Cymraeg yn gostwng o flwyddyn i flwyddyn. Y mae miloedd o bobl, yn enwedig yn y Deheudir, sydd yn siarad Cymraeg ar eu haelwydydd, ar yr heol ac yn y capel, nad ŷnt yn darllen llyfr Cymraeg o un pen o'r flwyddyn i'r llall. Pobl ydynt, nad oes ganddynt fawr diddordeb mewn llenyddiaeth fel iienyddiaeth, ond sydd er hynny yn hofî o nofel gyffrous, neu stori garu ddeniadol, wedi'i sgrifennu mewn iaith syml, gyda phlot heb fod yn rhy glyfar, ac yn gorffen gyda buddugoliaeth yr arwr, neu'r ditectif, ac yn y blaen. Y trueni yw mai yn Saesneg yn unig y mae'n bosibl i'r darllenydd hwn gael y fath stwff. Tybed a ydym ni'n iawn wrth esgeuluso y cyfryw ddarllenwyr? Tybed a ydyw'n bechod anfaddeuol sgrifennu ar gyfer y fath bobl? Wcdi'r cwbl, ychydig yw'r bobl sy'n difyrru mewn llen-