Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Almaen fel rhan o'i pholisi i esgymuno'r wlad honno 0 blith cymdeithas y cynhedloedd. II Y mae iaith Fflandrys, beth bynnag, wedi ei hachub rhag crafangau ei gelynion. Pedair blynedd yn ôl, yr oedd enwau'r gorsafoedd a'r strydoedd, gan mwyaf, mewn dwy iaith-Ffrangeg a Fflcmeg; heddiw, un iaith sydd yn teyrnasu ym mharthau gogleddol a dwyreiniol Bclgiwm, a'r Fflemeg yw honno. Ond ychydig a wyr am yr aberth a'r dioddef a gostiodd y fuddugoliaeth hon i garedigion mamiaith y fro. Bu'r papurau Saesneg yn ddigon parod i sôn byth a hefyd am Dr. Martens a ddedfrydwyd i farwolacth gan y Ffrancod, wedi'r rhyfel, am gyfathrachu ohono â'r fyddin Almaenaidd yn ystod eu harhosiad digroeso ym Melgiwm. Nis saethwyd y pryd hwnnw, ond bu ei ethol i'r Academi yn ddiweddar yn achos terfysg, a gofalodd y Wasg Saesneg gyfeirio at ei berthynas â'r Almaenwyr bob tro yr enwent ef. Gyda llaw, cenedlaetholwr Fflemaidd pybyr yw'r Dr., a chan hynny, ni ellir ei rifo ym mhlith ein Gallant Allies." Ond ni fu cymaint ag un gair yn y papurau Saesneg am M. Florimond Grammens, athro yng Ngholeg Esgobaeth- ol Ronse gynt, sy'n mam ysol dros wneuthur y Fflemeg yr unig iaith swyddogol yn y rhan honno o'r wlad lle siaredir hi yn unig. A chofíer bod mwy o Fflemiaid na Ffrancod ym Melgiwm. Mor danbaid ydoedd eiddgarwch M. Grammens fel y gwnaeth lw i dramwyo'r Taleithiau Fflemaidd a dileu pob hysbysebiad a chyfarwyddyd yn yr iaith Ffranceg. Daeth yn gymeriad cenedlaethol, gyda'i frws a'i liain, a heidiodd gwŷr ieuainc Fflandrys i'w ddilyn a'i efelychu. Y gosb, wrth reswm, ydoedd carchar, a diau fod M. Graemmens