Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wcdi trculio bron cymaint o amser mewn cell ag a dreuliasai yn ei ystafell ddarlithio. Ond ffrwyth ei feiddgarwch a'i frwdfrydedd ydyw ysgubo'r Ffranceg oddi ar bob mur a phared yng ngogledd Fflandrys. Y mae'n wir fod gwaliau Ostende a threh tebyg ar Ian y môr yn frith o Ffranceg, ond digwyddai'r un peth yn Llandudno ac Aberystwyth. III Wrth ein clun yn y trên, yr ochr draw i Aachen, eis- teddai tri theithiwr yn prysur ddarllen; yr oedd gan un lyfr Ysbacneg, y llaiÌ bapur Ffranceg, a'r trydydd gylchgrawn mewn iaith Slafaidd. Rhaid oedd tynnu papur Cymraeg allan, ac ymhen munud neu ddwy yr oedd tri phâr o lygaid chwilfrydig yn ceisio dyfalu a dyfeisio pa iaith waraidd ydoedd. Y tu allan i'r compartment, yr oedd y corridor yn llawn o filwyr—llanciau oddeutu deunaw i ugain oed, gan mwyaf --bechgyn bochgoch a dibryder yn clebran am bopeth dan haul ond rhyfel. Nid nad yw cysgod cwmwl rhyfel yn gorwedd o hyd ar fcddwl y bobl. Y mae un cip ar lyfrgellocdd a siopau llyfrau'r trefi yn profi bod galw beunyddiol am weithiau yn ymdrin â'r grefft filwrol. Fe'u ceir yn eu helaethrwydd yn y siopau arbennig hynny sy'n dwyn yr enw Ludendorff Buchhandlung. Holl amcan y siopau hyn, a barnu wrth gynnwys eu ffenestri, yw lladd ar y drindod fwyaf annuwiol a fu erioed, yng ngolwg arweinwyr yr Almaen, scf Cristnogaeth, Iddewaeth, a Chomiwnyddiaeth. Y mae Lloegr yn cael cryn sylw, hefyd, yn enwedig ei byddin a'i liynges ar fôr ac yn yr awyr. Pa mor gryf ydynt? A allent ddal yn hir yn erbyn grym milwrol yr Almaen? Y mae'r cwestiynnau hyn yn pwyso*n fwy ar