Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

feddwl y Naziaid heddiw na dyfeisio dulliau newydd i erlid yr Iddewon o bared i bost. Serch hynny, yr oedd gweithiau Goethe, Shakespeare a Voltaire yn mynnu gwthio eu trwynau i blith y cyfrolau trwchus, llafurfawr a hunan-hysbysebol hyn. Fel petai un neu ddau sifiüan yn mentro cerdded ar flaen bysedd eu traed o gylch cwmni o gadfridogion blonegog, tagellog a hunan-bwysig. Ac felly y mae gyda diwylliant yr Almaen heddiw. IV Testun dirmyg ac atgasedd yw aelodau'r I.R.A. ym Mhrydain, gan mwyaf, ond caiff hanes eu brwydr yn erbyn craffter ysbïwyr Scotland Yard sylw arbennig gan y Wasg Almaenaidd. Neilltuir tudalennau'n grwn i fwrw golwg dros y gwrthryfeloedd yn yr Ynys Werdd o 1916 hyd 1921, a chynigir toreth o resymau am y ffrwydradau diweddaraf, ynghyda mwy o fanylion amdanynt nag a geir yn y papurau cartref. Y mae lle anrhydeddus i lyfrau am Iwerddon a'i phobl ar silffoedd y llyfrwerthwyr. Er eng- hraifft, Iwerddon, gwlad y Saint a'r Gwrthryfelwyr," ac ami i lyfr teithio. Diddorol fyddai gwybod faint o Almaenwyr sydd wedi ymweld â'r Gwyddyl yn ystod y misoedd diwethaf. (I'w barhau) GERAINT DYFNALLT OWEN.