Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y gwir amdani yw hyn­mae'n rhaid i'n hiaith len- yddol a'n hiaith lafar ddod yn nes at ei gilydd nag yr ydynt ar hyn o bryd. Mae'r dyn cyffredin yn teimlo yn ei galon ofn siarad Cymraeg rhag na fydd ei iaith yn ddigon llenyddol. Mae'r Ilenor yntau yn teimlo os ysgrif- enna'n rhy goeth ac yn rhy gaboledig na ddeellir ei waith gan y mwyafrif. Mae'n rhaid felly geisio cael gafael ar y llinell ganol rhwng y ddau safbwynt. A thra ydym wrthi rhaid inni ffurfio termau ac ymadroddion a fydd yn cyd- weddu ag ysbryd materol, diwydiannol yr oes hon. Yr ydym yn byw ym myd y radio a'r car, ym myd y sinema a'r A.R.P., yng nghyfnod y talu bob mis ac yn gyrru braw ar ein tadau na fynnent brynu dim os na allent dalu'r arian pen amdano. Ond wrth geisio dychmygu'r termau newydd gofalwn fod yn glir ac yn ddiamwys. Ym myd llenyddiaeth gwel- wn rai o'n hawduron a'n beirdd yn defnyddio ffurfiau newydd a dieithr, a heb lwyr feistroli eu cyfrwng. Mae .llawer o'r canu diweddar yma yn gwbl annealladwy (i mi beth bynnag) ac mor annhebyg i farddoniaeth ag ydyw iâr glwc i alarch. Bydd gofyn inni gadw'r iaith yn loyw ac yn glir. Fe gofiwch i gyd, mae'n debyg, am rywun yn cwyno'n gyhoeddus ar yr afgraffiad Cymraeg o'r National Service Handbook, y Llawlyfr Gwasanaeth Cenedlaethol, ei fod yn dywyll iawn iddo ef, ac yr oedd yn bur lawdrwm ar y cyfieithiad Cymraeg. Ond gellir dweud cymaint â hyn-fod y Gymraeg o leiaf mor ddeall- adwy â'r Saesneg-byddai gofyn cael cyfreithiwr i ddeall rhai rhannau o'r National Service Handbook. Ac y mae hyn yn beth y dylid ei gadw mewn coE-nid ydym ni yng Nghymru wedi gallu magu traddodiad o ysgrifènnu pethau cyfreithiol a phethau swyddogol fel y mae'r Saeson. Saeneg yw'r iaith swyddogol, ac y mae honno wedi ei throi a'i phlethu i fynegi'n union beth sydd ym meddwl y cyf- reithiwr. Ac fel rheol mae'n rhaid cael help cyfreithiwr i