Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DRAMA A RADIO O GWMPAS yr Eisteddfod y bydd y nodiadau hyn yn troi y tro yma. Y rhaglen hynotaf a glywais y mis hwn, fcl y mae'n digwydd, oedd rhaglen yn ymwneud â'r Eistedd- fod Genedlaethol, sef rhaglen o waith Mr. W. D. Williams lle y daeth gwahanol enwogion Sir Ddinbych at y meic i'n crocsawu i'r Eisteddfod. Uchafbwynt y rhaglen oedd anterliwt newydd Twm o'r Nant, Tri Chedyrn Eisteddfod, sef Dic Siôn Dafydd, Siôn Lygad y Geiniog, a Chythraul y Canu. Yr oedd ysbryd ac awen Twm ei hun yn yr anterliwt. Gobeithio yn fawr iawn y ceir ei gweld mewn print yn fuan iawn. Bu Tri Chryfion Byd yn llwyddiant hefyd ar y wagen, yn y cae chwarae ger maes yr Eisteddfod; cymaint felly nes y penderfynwyd cael ail beríformiad ar y cae brynhawn Sadwrn. Calondid oedd gweld y ddrama draddodiadol yn llwyddiant. Wedi hynny, hawdd oedd anghofio'r siom a gawsom yn y ddrama fawr. Gŵyr pawb bellach mai meth- iant fu hon ym mhob ystyr ond yr ystyr ariannol. Bydd perygl i ddrama o'r fath fod yn fethiant ariannol hyd yn oed, os bydd pwyllgorau'r dyfodol mor annoeth â cheisio'i llwyfannu yn y Panliwn. Nid oedd unoliaeth o gwbl yn Ein Tywysog Olaf. Yr oedd ynddi unigolion teilwng, a châi dyn flas ar y perfformiad am ennyd tra byddai Mr. Hugh Griffith (Dafydd) neu Mr. W. J. Davies (Jonas) yn llefaru, ond llecynnau gleision mewn anialwch oedd y munudau hyn. Teimlwn, hefyd, fod y gerddoriaeth a ychwanegwyd i'r ddrama yn debycach i ochain dreigiau nag i gân adar Rhiannon Dywedodd rhywun wrthyf fod pobl Ddinbych am newid treigliad y rhagenw Lladin yn lle hic haec, hoc, ceir bellach, hic, Hdck, hike!