Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SIOM 'CHYSGODD Harri fawr y noson honno, a dyna fu hanes nifer fawr o'r naw deg arall o fechgyn y cymoedd glawog hyn, a fyddai'n tyrru fore trannoeth, mewn bws, mewn trên, ar droed, ar gefn beisicl, i'r ysgol ramadegol, y gram," am y tro cyntaf yn eu hanes. Bechgyn y cymoedd glawog, lIe 'roedd y tipiau glo fel petaent yn 'ymborthi ar y llethrau, fel cornwydon ar wddf, yn sugno'r nerth o'r gwythiennau a'i gronni'n dylpau parasitaidd. Ni buasai Harri y tu mewn i'r gram erioed, ond cawsai ambell i gipolwg arni wrth fynd heibio yn y tren, ar y ffordd i Gaerdydd gyda'i dad ar brynhawn Sadwrn. 'Roedd yn cofio am y tro cyntaf i'w dad dynnu ei sylw ati. Mynd i Gaerdydd yn y trên yr oeddent bryd hynny hefyd, ac yn pasio drwy un o'r pentrefi hynny y daw'r trên ar eu traws yn dwp reit. Y tro hwnnw, cofiai Harri'n iawn, fe gododd ei dad ei het, a disgwyliai Harri weld angladd yn cerdded yr heol naill ochr neu'r Hall. I be' chi'n codi'ch het, 'te, 'nhad? O, fe fydda' i'n gwneud hynny bob tro wrth basio'r hen ysgol, wel' di." Sylwodd Harri ddim eu bod wedi cyrraedd Caerdydd hanner awr wedyn, achos 'roedd ei dad heb orffen chwed- leua am y pedair blynedd y bu'n gwisgo cap y gram." Ni bu taw ar gleber Harri y prynhawn hwnnw, 'roedd am i'w dad addo'n bendant brynu cap y gram iddo cyn mynd adref. O'r diwedd fe'i perswadiwyd ef rywsut ei bod yn rhaid iddo ennill yr hawl a'r fraint o wisgo'r cap. Dwy flynedd wedyn eisteddodd Harri ei arholiad am ysgoloriaeth. Am chwe wythnos wedi dydd yr arholiad bu'n prynu'r papur newydd Ileol yn gyson bob nos i chwilio am y rhestr enwau, ac un bore Sui gwelwyd e'n dod nôl o'r cwrdd â'r llyfr emynau geiriau-yn-unig yn un