Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYDDIADUR CYMRO Awdur y Dyddiadur am y tri mis nesaf fydd Mr. T. O. Phillips, Abertawe. Bydd ysgrifenwyr y dyddiadur yn hollol rydd i ddatgan eu barn, ond ni byddant o angenrheidrwydd yn datgan barn HEDDIW. Y mae Mr. Phillips yn Athro Cymraeg a Hanes yn Ysgol Sir Tre Gûyr, ac yn anabyddus fel adolygydd llyfrau dros y B.B.C. OFFERYN peryglus yw rhyddid, yn enwedig pan fo modd ei droi yn benrhyddid. A chan fod y Golygydd hynaws wedi caniatiu imi drin pynciau'r dydd yn ddi- lyffethair, yr wyf am fwrw'n angof am y tro fod llawer drwg yn dda i'w gelu, ac ymwregysu i wyntyllu peth o'r rhagrith sv'n hugan tynn o gwmpas rhai agweddau o'n bywyd cenedlaethol. Eithr nid ysgrifennais y nodiadau hyn er cythruddo neb, nac i ymosod yn wenwynllyd ar na sefydliad na pherson. A phe gwnawn hyn, byddwn yn ddigamsyniol ffyddlon i draddodiad cecrus ac ymrysongar Cymru. Ysgrifennais yn unig i'm plesio fy hunan i nithio'r gau a nythu'r gwir,—y gau a'r gwir yn ôl fv marn ffaeledig a diduedd i. Tua'r adeg yma o'r flwyddyn fe'n cawn ein hunain yn bwrw'r llinyn mesur dros gynhyrchion yr Eisteddfod; a chystal cyfaddef mai digon siomedig fu cynhyrchion pryd- yddol Dinbych. Eto ni allaf weld bod galw am gwyno ac anobeithio; oni chawsom goroni a chadeirio, fe roed hwb yn ei blaen i'n llenyddiaeth drwy ddiogelu teilyngdod safon. Siom, mae'n ddiau gennyf, sydd wrth wraidd y gwangalonni, oherwydd hyderwyd cael cynhaeaf braf a thoreithiog o Ddinbych. Anuniongyrchol, felly, yw cyf- raniad yr Eisteddfod hon i lên Cymru, gan iddi ddangos mor ynfyd yw disgwyl i'r beirdd ganu ar destunau gosod di-awen. Ni allaf gydweld chwaith â'r dosbarth hwnnw a fynn mai rhagargoel o gyfnod hesb a welir yn niffyg