Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

feirniadu a'r enllibio a'r Ilabyddio a fu ar raglenni Cymru yn codi fy ngwrychyn. A bwrw bod y rhagienni gyn- ddrwg ag yr honnir eu bod (a barnu pawb yn ôl ei chwaeth ac nid yn ôl ei fwmpwy), y gofid yw teimlo bod llawer o'r beirniadu yn codi o ragfarn a chenfigen. Wedi'r cwbl, talent a diwylliant Cymru sydd ar braw, ac y mae croeso i'r beirniaid ddiogelu safon darlledu drwy gynhyrchu rhag- lenni safonol. Y drwg yw bod gormod o bleidiau sy'n gwbl anffaeledig yng Nghymru, a phob plaid yn ymladd ewin a daint am oruchafiaeth ar y llall. Gresyn na bai modd asio a ffrwydro'r galluoedd grymus hyn, a thrwyddynt lunio offeryn aruthrol ei ddylanwad. Y mae'r ymrannu ffôl a chysedyd yma yn rhwym o esgor ar dranc yr iaith hwyr neu hwyrach. T. O. PHILLIPS. MARTHA A'I CHLOC YN ystod fy mlynyddoedd olaf yn yr ysgol yr oeddwn 1 yn byw mewn ty bychan yn y dre lle trigai merch ddi- briod oedrannus, yr unig un ar ôl o dad, mam, brodyr a chwiorydd. Bu farw ei rhieni, a'u dau frawd, a chanlynodd ei chwiorydd eu gwyr i ardaloedd pellennig, oddieithr y ieuengaf a briododd feddyg o'r un lle. Felly ynteu, trigai Martha wrthi ei hun yn nhy ei rhieni lIe cnillodd fywol- iaeth brin drwy osod hen ystafell y teulu a thrwy gyn- horthwy incwm fechan. Eto ni phoenwyd hi lawer gan y fîaith taw dim ond ar y Sul y gallai osod ei bwrdd. Canys nid oedd ganddi nemor ddim hawl ar fywyd allanol oher- wydd yr addysg gul a chynnil a roddodd ei thad i'w holl blant yn ôl ei egwyddorion ac yn 61 ei amgylchiadau cyfyng cymdeithasol. Eithr oni chafodd Martha yn ei hieuenctid addysg gyffredin, eto i gyd, yn ystod yr amser y deuthum i gysylltiad â hi, cyrhaeddodd safon adeiladol